Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.30 - 9.35)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.

Cofnodion:

1.1          Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

(9.35 - 9.40)

2.

Cofrestru manylion aelodau o'r teulu o dan Reolau Sefydlog 2 a 3

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ymgynghori â'r Aelod dan sylw a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(9.40 - 9.55)

3.

Ymchwiliad i lobïo - cymorth academaidd

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Dr John William Devine i gyfarfod yn y dyfodol i hwyluso trafodaeth bellach ynghylch lobïo.

 

3.2 Gofynnodd y Pwyllgor i swyddogion ymchwilio i'r posibilrwydd o gael cymorth academaidd o'r tu allan i Gymru.

 

(9.55 - 10.10)

4.

Fferm Gilestone a Chod y Gweinidogion

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a'r adroddiad a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog.

 

(10.10 - 10.25)

5.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

(10.25 - 10.40)

6.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

(10.40 - 10.55)

7.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

(10.55 - 11.00)

8.

Papur i'w nodi - Cofrestr o Fuddiannau'r Aelodau - symudiad arfaethedig i MS Forms

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ymgynghori â'r Comisiynydd Safonau cyn dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.