Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/06/2024 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant, ac ni chafwyd unrhyw eilyddion.

 

(9.15 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol: Sesiwn dystiolaeth 7

Dr Sam Fowles, Cornerstone Barristers.

Jennifer Nadel, Compassion in Politics.

Cofnodion:

2.1      Trafododd y Pwyllgor Atebolrwydd Aelodau Unigol gyda Dr Sam Fowles, Bargyfreithwyr Cornerstone, a Jennifer Nadel, Compassion in Politics.

(10.20 - 11.00)

3.

Ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol: Sesiwn dystiolaeth 8

Jane Dodds, AS.

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r sesiwn dystiolaeth oherwydd na allai’r tyst, Jane Dodds AS, fod yn bresennol yn y sesiwn.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.42.

 

(11.00 - 11.05)

5.

Ethol Cadeirydd dros dro yn unol ag Adran 9.1 o'r weithdrefn gwyno

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i benodi Mark Drakeford AS yn Gadeirydd dros dro yn unol ag Adran 9.1 y weithdrefn gwynion.

 

(11.05 - 11.30)

6.

Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiynau.