Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/05/2023 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Llyr Gruffydd AS, ac yn unol â rheol sefydlog 17.22, etholwyd Delyth Jewell AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn.

 

(09.30-10.40)

2.

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 6

Haf Elgar, Cyfarwyddwr - Cyfeillion y Ddaear Cymru

Jenny Hawley, Rheolwr Polisi, Plantlife – yn cynrychioli Cyswllt Amgylchedd Cymru

Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu – Cyfoeth Naturiol Cymru

Eirian MacDonald, Rheolwr Rheoleiddio’r Dyfodol – Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Cyfeillion y Ddaear Cymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru, a Cyfoeth Naturiol Cymru

 

(10.50-12.00)

3.

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 7

Kristian James – Aelod o’r Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH)

Colin Cobbing - Cyfarwyddwr Pinnacle Acoustics Consultants, ac Aelod o’r Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.

 

(12.00)

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papur.

 

4.1

Y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Drafnidiaeth

Dogfennau ategol:

(12.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.

 

7.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio - sesiwn friffio cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Oherwydd cyfyngiadau amser cytunodd yr Aelodau i gario'r briff cyfreithiol ymlaen i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.