Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/11/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13:30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant

 

(13.30-14.45)

2.

Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol - sesiwn dystiolaeth dau

Triniaeth Deg i Fenywod Cymru – Dee Montague-Coast

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru (Hwb Cymorth Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod) – Jo Hopkins

 

Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU – Dr Chantal Edge

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan Dee Montague-Coast o Triniaeth Deg i Fenywod yng Nghymru, Jo Hopkins o Iechyd Cyhoeddus Cymru (Hb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod) a Dr Chantal Edge o Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU.

 

(15.00-16.00)

3.

Profiadau menywod yn y System Cyfiawnder Troseddol – sesiwn dystiolaeth tri

Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi - Nicola Davies a Victoria Harries

 

Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Chadeirydd Grŵp Menywod mewn Cyfiawnder yng Nghymru - Emma Wools

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan Nicola Davies a Victoria Harries o Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi ac Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a Chadeirydd Grŵp Menywod mewn Cyfiawnder yng Nghymru.

 

(14:00)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau.

 

4.1

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cadeirydd ynghylch gohebiaeth gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Cyllideb Ddrafft 2023-2024

Dogfennau ategol:

4.3

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-2024.

Dogfennau ategol:

(16:00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.

 

(16:00-16:30)

6.

Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn.

 

(16.30-16.45)

7.

Y flaenragalen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau i ystyried y flaenraglen waith yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 21 Tachwedd 2022.