Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/11/2025 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
09.15 |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Hannah Blythyn AS. Roedd Rhianon Passmore AS yn bresennol
fel dirprwy ar ei rhan ar gyfer eitem 2 ac eitem 3. 1.3 O dan Reol
Sefydlog 17.24A, datganodd Samuel Kurtz AS, Andrew RT Davies AS a Huw
Irranca-Davies AS fuddiant ar ddechrau’r cyfarfod. |
|
09.15 - 10.15 |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27: Materion Gwledig Huw
Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru Gian Marco Currado,
Cyfarwyddwr - Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru Dr Richard
Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru Jamie Powell,
Dirprwy Gyfarwyddwr - Cyllid a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Irranca-Davies
AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru, ar faterion yn ymwneud â materion gwledig,
gyda thri swyddog yn cefnogi. |
|
10.20 - 10.50 |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27: Masnach a Ffiniau Rebecca Evans AS,
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru Huw Irranca-Davies
AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru Peter Ryland,
Prif Weithredwr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Llywodraeth Cymru Andrew Gwatkin,
Cyfarwyddwr - Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS,
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru, a
Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros
Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru, ar faterion yn ymwneud â
masnach a ffiniau, gyda dau swyddog yn eu cefnogi. |
|
11.00 - 12.20 |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27: Yr Economi a Sgiliau Rebecca Evans AS,
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru Jack Sargeant AS,
y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Llywodraeth Cymru Duncan Hamer,
Cyfarwyddwr - Gweithrediadau, Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru Jo Salway,
Cyfarwyddwr - Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg,
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS,
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru a
Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol,
Llywodraeth Cymru, ar faterion yn ymwneud â’r economi a sgiliau, gyda dau
swyddog yn eu cefnogi. |
|
12.20 |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau. |
|
|
Y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru): cwestiynau pellach yn dilyn y sesiwn dystiolaeth - 5 Tachwedd 2025 Dogfennau ategol: |
||
|
Y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru): cwestiynau pellach yn dilyn y sesiwn dystiolaeth - 13 Tachwedd 2025 Dogfennau ategol: |
||
|
Ymchwiliad i brosesu bwyd: Cwestiynau yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 24 Medi 2025 Dogfennau ategol: |
||
|
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol - Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Dogfennau ategol: |
||
|
Rheoliadau Cynhyrchu Organig (Diwygio) 2025 Dogfennau ategol: |
||
12.20 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: 6.1 Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
12.20 - 12.30 |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan
eitem 3, eitem 4 ac eitem 5, a thrafododd bwyntiau sydd i’w cynnwys yn ei
adroddiad. |
PDF 208 KB