Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Amseriad disgwyliedig: Hybrid
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/02/2024 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack
Sargeant AS. |
|
(09:30 -10:30) |
Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr gofal sylfaenol a gofal eilaidd Dr Rowena
Christmas, Cadeirydd - Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru Coleg Nyrsio
Brenhinol Cymru Briff Ymchwil Papur 1 – Coleg
Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r
sector gofal sylfaenol ac eilaidd. 2.2 Cytunodd Lisa Turnbull, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru,
i ddarparu manylion am strategaeth gomisiynu ôl-raddedig genedlaethol ar gyfer
nyrsio y mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi bod yn galw amdani. |
|
(10:45 - 11:45) |
Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: sesiwn dystiolaeth gyda gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd Dai Davies,
Arweinydd Ymarfer Proffesiynol Cymru – Coleg Brenhinol
y Therapyddion Galwedigaethol Papur 4 – Coleg
Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol Papur 5 – Cymdeithas
Siartredig Ffisiotherapi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. 3.2 Cytunodd Dai Davies, Coleg Brenhinol y Therapyddion
Galwedigaethol, i rannu copi o'r adroddiad a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru gan
nifer o'r Colegau Brenhinol ynghylch y cysylltiad rhwng cyflyrau cronig a phobl
sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig gyda'r Pwyllgor. Cytunodd Dai Davies
hefyd i rannu copi o ymateb Llywodraeth Cymru, pan fydd ar gael. 3.3 Cytunodd Dai Davies i rannu copïau o adroddiadau yn
manylu ar sut y gall cyrchu gwasanaethau a ddarperir gan therapyddion
galwedigaethol leddfu'r pwysau ar GIG Cymru a bod yn gost-effeithiol iddo. |
|
(11:45) |
Papurau i'w nodi |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i'r Cadeirydd ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor: Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf. |
||
(11.45) |
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill cyfarfod heddiw a'r cyfarfod ar 28 Chwefror 2024 Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(11:45 - 12:00) |
Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12:00 -12:20) |
Atal iechyd gwael - gordewdra: papur cwmpasu Papur 6 – papur
cwmpasu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y papur cwmpasu, yn amodol ar
newidiadau mân. |
|
(12.20-12.30) |
Gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (UKIMA) Papur 7 – Deddf
Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (UKIMA) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor
Busnes. |