Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/05/2023 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod ac eglurodd fod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar gyfer eitemau 1-6, yn cyfarfod ar yr un pryd â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

1.2         Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

1.3         Datganodd Mabon ap Gwynfor AS fod ei wraig yn gweithio i elusen sy'n eirioli dros blant a phobl ifanc y mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn effeithio arnynt.

 

(09.30-11.00)

2.

Gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Panel 1

Yr Athro Mark Llewellyn, Athro Polisi Iechyd a Gofal a Chyfarwyddwr, yr Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr Athro Fiona Verity, Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe

 

Gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: gwerthuso prosesau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgorau dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru a Phrifysgol Abertawe.

 

(11.15-12.30)

3.

Gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Panel 2

Yr Athro Luke Clements, Athro Cerebra y Gyfraith a Chyfiawnder Cymdeithasol, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Leeds

Dr Alison Tarrant, Darlithydd ym maes y Gyfraith, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Clywodd y Pwyllgorau dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Leeds.

 

(12.30-12.40)

4.

Gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgorau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.40-12.50)

5.

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgorau y flaenraglen waith.

 

(12.50-13.20)

6.

Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgorau yr adroddiad drafft ar eu gwaith craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn amodol ar fân ddiwygiadau i’w cytuno drwy e-bost, a gwnaethant gytuno ar yr adroddiad drafft hwnnw.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgorau ar drefniadau ar gyfer cyhoeddi'r adroddiad.

 

(13.20-13.30)

7.

Adolygiad interim o strategaeth y Pwyllgor: adroddiad drafft

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar yr adolygiad o’r strategaeth interim, chytunodd arno.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor ar drefniadau ar gyfer cyhoeddi'r adroddiad.