Gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Daeth Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym ar 6 Ebrill 2016.
Mae’r Ddeddf yn
darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella llesiant pobl sydd angen gofal
a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau
cymdeithasol yng Nghymru.
Comisiynodd
Llywodraeth Cymru werthusiad
annibynnol o’r Ddeddf, a ddaeth i ben ar ddiwedd 2022.
Ar 25 Mai 2023,
cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol a’r Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus sesiwn dystiolaeth gydag arbenigwyr
academaidd i drafod y gwaith o werthuso’r Ddeddf, y camau nesaf ac unrhyw
feysydd lle mae angen sylw pellach.
Yn dilyn y
cyfarfod ar 25 Mai 2023, ysgrifennodd
y Pwyllgorau ar y cyd at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
i dynnu sylw at faterion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/05/2023
Dogfennau