Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/01/2024 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan AS a Buffy Williams AS. Dirprwyodd Sioned Williams AS ar ran Heledd a dirprwyodd John Griffiths AS ar ran Buffy ar gyfer eitem 4. 

 

(09.15 - 10.15)

2.

Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 6

Y Cynghorydd Ian Roberts, Llefarydd Addysg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Claire Homard, Cadeirydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW).

2.1 Cytunodd ADEW i ddarparu rhagor o fanylion ynghylch opsiwn posibl i optio allan o dan adran 42 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.

 

(10.25 - 11.25)

3.

Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 7

Frank Young, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil, Parentkind

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Parentkind.

3.2 Cytunodd Parentkind i roi nodyn ar sut y gallai opsiwn optio allan posibl weithio yn ymarferol.

 

(11.30 - 12.15)

4.

Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 8

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Lloyd Hopkin, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cwricwlwm, Llywodraeth Cymru

Ceri Planchant, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

 

(12.15)

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Arolygiaeth Gofal Cymru: Craffu Blynyddol

Dogfennau ategol:

5.2

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Dogfennau ategol:

5.3

Gwybodaeth gan Randdeiliaid

Dogfennau ategol:

5.4

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Dogfennau ategol:

(12.15)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.15 - 12.30)

7.

Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiynau blaenorol.