Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/06/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(10.30)

2.

Papur i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papur ei nodi.

2.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg i dynnu sylw at y materion a godwyd yn y papur i’w nodi rhif 3. Bydd y Pwyllgor yn ystyried ymateb y Gweinidog ar ôl ei dderbyn. Cytunasant hefyd i sicrhau bod materion perthnasol yn cael eu hystyried fel rhan o'u hymchwiliadau parhaus i weithredu diwygiadau addysg a mynediad at addysg a gofal plant.

 

 

2.1

Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch

Dogfennau ategol:

2.2

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

2.3

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

2.4

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

2.5

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

2.6

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?

Dogfennau ategol:

2.7

Gwybodaeth gan randdeiliaid

Dogfennau ategol:

2.8

Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Dogfennau ategol:

2.9

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

(10.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30 - 11.25)

4.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mudo Anghyfreithlon - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

4.1 Yn amodol ar newidiadau i’w cytuno’n electronig y tu allan i’r cyfarfod Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. Bydd yr adroddiad yn cael ei osod ar 19 Mehefin.

 

(11.30 - 12.30)

5.

Briff technegol ar y Bil Addysg Gymraeg

Drwy wahoddiad, bydd Aelodau'r Pwyllgor yn ymuno â'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar gyfer yr eitem hon.

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan swyddogion Llywodraeth Cymru.