Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/05/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.10 - 09.30) |
Gweithredu diwygiadau addysg - y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ymgysylltu Cofnodion: 1.1 Cafodd yr Aelodau gyflwyniad ar ganfyddiadau'r
gweithgareddau ymgysylltu a gynhaliwyd cyn y sesiwn graffu. |
|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 2.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09.30 - 10.45) |
Gweithredu diwygiadau addysg - Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Hannah Wharf,
Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr Georgina Haarhoff,
Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cwricwlwm, Asesu a Gwella Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg
ac Addysg. |
|
(10.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.00 - 11.15) |
Gweithredu diwygiadau addysg - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod
y sesiwn flaenorol. 5.2 Cytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg
gyda rhai pwyntiau dilynol, ac at CLlLC i gael rhagor o wybodaeth am bwynt
penodol. 5.3 Cytunodd hefyd y byddai rhywfaint o waith cwmpasu
pellach yn cael ei wneud ar rai pwyntiau ehangach a godwyd yn ystod y sesiwn. |
|
(11.15 - 12.30) |
Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical - trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a gwneud
newidiadau terfynol. Yn amodol ar newidiadau i’w cytuno’n electronig y tu allan
i gyfarfod y Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |