Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/03/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical – sesiwn dystiolaeth 9

Jane Shears, Pennaeth Datblygu Proffesiynol, Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain.

2.2 Cytunodd i ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

- Rhagor o wybodaeth am y prosiect i gefnogi gweithwyr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso dramor i gymryd swyddi.

- Dadansoddiad o ganlyniadau arolwg blynyddol 2022 gan gynnwys trosolwg o'r ymatebion gan weithwyr cymdeithasol yng Nghymru yn benodol.

- Sylwadau ar rôl ddeuol gweithwyr cymdeithasol pan fo pryderon diogelu o ran plentyn rhiant sydd â phrofiad o ofal (sef cael rôl ddiogelu ar gyfer plentyn - ar yr un pryd â bod yn rhiant corfforaethol i fam geni â phrofiad o fod mewn gofal).

 

(10.35 - 11.15)

3.

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical – sesiwn dystiolaeth 10

Christine Parry, Rheolwr Gwasanaethau Plant, Barnardo's Cymru
Sian Elen Tomos, Prif Swyddog Gweithredol, GISDA

Sam Austin, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Llamau
Yvonne Connelly, Cyfarwyddwr Gweithredol Gorllewin a Gogledd, Llamau

 

 

 

Dogfennau ategol:

(11.30 - 12.10)

4.

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical – sesiwn dystiolaeth 11

Lee Phillips, Rheolwr Cymru ar gyfer y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, a Chadeirydd Fforwm Addysg Ariannol Cymru  

Alan Davies, Pennaeth Gwasanaethau a Ariennir, Cyngor ar Bopeth, Cymru a Lloegr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fforwm Addysg Ariannol Cymru a Chyngor ar Bopeth Cymru a Lloegr.

 

(12.15 - 12.55)

5.

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical – sesiwn dystiolaeth 12

Lena Smith, Cadeirydd rhwydwaith CLASS Cymru

Dr Hannah Bayfield, Cydymaith Ymchwil, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE)

Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Jacqui Boddington, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac yn cynrychioli Prifysgolion Cymru

Sophie Douglas, Ymgynghorydd Polisi, Prifysgolion Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan rwydwaith CLASS Cymru a Phrifysgolion Cymru.

 

(12.55)

6.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

6.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

6.1

Gwybodaeth gan randdeiliaid

Dogfennau ategol:

6.2

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr

Dogfennau ategol:

6.3

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical

Dogfennau ategol:

6.4

Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022

Dogfennau ategol:

6.5

Ystyried goblygiadau ariannol Biliau gan y Senedd

Dogfennau ategol:

6.6

Gwybodaeth gan randdeiliaid

Dogfennau ategol:

6.7

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical

Dogfennau ategol:

(12.55)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o eitem 1 ar 9 Mawrth.

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.55 - 13.05)

8.

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.