Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/12/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

1.3 Nododd y Cadeirydd y byddai Sioned Williams AS yn dirprwyo ar ran Siân Gwenllian AS ar gyfer eitemau 6 a 7 a bod Laura Ann Jones AS wedi anfon ei hymddiheuriadau am eitemau 6 a 7, nid oedd dirprwy.

1.4 O dan Reol Sefydlog 17.24A datganodd James Evans AS ei fod yn gynghorydd lleol ac yn llywodraethwr ysgol.

 

(09.15 - 10.45)

2.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020 – 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Estyn ynghylch ei Adroddiad Blynyddol.

2.2 Cytunodd Estyn i ddarparu nodyn ar nifer yr ysgolion sydd yn y ddau gategori statudol y mae sy’n gofyn am welliant sylweddol, ac sy'n gofyn am fesurau arbennig ar gyfer monitro gan Estyn.

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at bob awdurdod lleol i'w gwneud yn ymwybodol o'r hyfforddiant y mae Estyn yn ei ddarparu ar gyfer llywodraethwyr ysgolion.

 

(10.45)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 4, eitem 7, eitem 8 ac eitem 9 ar agenda’r cyfarfod hwn.

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.45 - 10.55)

4.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020 – 2021: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn y sesiwn flaenorol.

 

(11.05)

5.

Papur i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papur ei nodi.

 

5.1

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-23

Dogfennau ategol:

(11.05 - 11.50)

6.

Gwrandawiad cyn penodi, ar gyfer penodi Comisiynydd Plant Cymru

Cofnodion:

6.1 Nododd y Cadeirydd fod ymddiheuriadau wedi dod i law ar gyfer yr eitem hon oddi wrth Laura Ann Jones AS a Siân Gwenllian AS. Roedd y ddwy wedi bod yn rhan o'r panel recriwtio trawsbleidiol ar gyfer y rôl, ac felly wedi cytuno na ddylent fod yn bresennol ar gyfer eitemau'n ymwneud â'r gwrandawiad cyn penodi. Dirprwyodd Sioned Williams AS ar ran Siân.

6.2 Bu’r Pwyllgor yn cynnal gwaith craffu ar yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.

 

 

(11.50 - 12.05)

7.

Gwrandawiad cyn penodi, ar gyfer penodi Comisiynydd Plant Cymru – trafodaeth gan y Pwyllgor

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn gyda'r ymgeisydd a ffefrir.

7.2 Oherwydd amserlenni ar gyfer adrodd, cytunodd yr Aelodau i ystyried yr adroddiad ar y gwrandawiad cyn penodi, a chytuno arno, yn electronig. Caiff yr adroddiad ei osod yn y flwyddyn newydd.

 

(12.05 - 12.15)

8.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr opsiynau posibl ar gyfer ei ymchwiliad polisi nesaf. Cytunodd yr aelodau i gynnal ymchwiliad i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn ysgolion. Byddai papur ar y dull a'r cylch gorchwyl yn cael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am blant sy'n derbyn gofal ac yn benodol y gefnogaeth i blant sy'n gadael gofal; ac iechyd meddwl amenedigol.

8.3 Cytunodd y Pwyllgor i archwilio’r posibilrwydd o gynnal gwaith yn y dyfodol ar effaith y cyfryngau cymdeithasol ar blant a phobl ifanc.

 

(11.50 - 12.05)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 – trafod yr adroddiad drafft.

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor newidiadau i'r adroddiad drafft. O ganlyniad i amserlenni ar gyfer adrodd, cytunodd yr Aelodau i ystyried y diwygiadau terfynol yn electronig. Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei osod erbyn 16 Rhagfyr.