Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/11/2024 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Diolchodd y Cadeirydd i Hefin David AS am ei amser a'i gyfraniadau i'r Pwyllgor. Roedd hi'n edrych ymlaen at groesawu Carolyn i'r Pwyllgor. Roedd Carolyn wedi anfon ei hymddiheuriadau am heddiw, ac nid oedd eilydd.

1.3 Nododd y Cadeirydd fod angen i Tom Giffard AS a Vaughan Gething AS adael y cyfarfod yn gynnar.

 

(09.30 - 11.00)

2.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2023-2024

Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru

Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus

 

 

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiynydd Plant Cymru 2023-2024

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Comisiynydd yn ei Hadroddiad Blynyddol.

 

 

(11.00)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

 

3.1

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Dogfennau ategol:

3.2

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Dogfennau ategol:

3.3

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Dogfennau ategol:

3.4

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Dogfennau ategol:

3.5

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Dogfennau ategol:

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a’r cyfarfodydd cyfan ar 28 Tachwedd a 4 Rhagfyr.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15 - 11.25)

5.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2023-2024 - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiwn flaenorol.

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i drefnu amser ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol i drafod ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol y Comisiynwyr.

 

(11.25 - 12.15)

6.

Plant a phobl ifanc ar yr ymylon - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

6.1 Yn dilyn y drafodaeth yr wythnos diwethaf, trafododd yr Aelodau newidiadau i’r adroddiad drafft, a chytunodd arnynt. Byddai’r newidiadau terfynol a’r gymeradwyaeth yn cael eu cytuno’n electronig.