Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Committee Room 4 - Tŷ Hywel

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/06/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15 - 10.30)

1.

Absenoldeb disgyblion - sesiwn dystiolaeth 1

Sesiwn bord gron gyda swyddogion Lles Addysg o bob rhan o Gymru a chynrychiolwyr grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid

 

Cofnodion:

1.1 Bu'r aelodau'n trafod yr ymchwiliad gyda swyddogion lles addysg, cynrychiolydd o'r grŵp prif swyddogion ieuenctid a chynrychiolydd o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

1.2 Cytunodd rheolwr gwasanaeth swyddog lles addysg i ddarparu data yn ymwneud â Hysbysiadau Cosb Benodedig a gwybodaeth am 'Brosiect y Bont'.

1.3 Cytunodd y Clercod i ddarparu cyfeiriad e-bost i bob panelydd rhag ofn bod gan unrhyw un unrhyw beth i'w ychwanegu, neu unrhyw dystiolaeth ychwanegol. Bydd nodyn o'r sesiwn i'w wirio.

 

(10.45)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sioned Williams AS a James Evans AS, a byddai Heledd Fychan AS yn dirprwyo ar ran Sioned Williams.

 

 

 

(10.45 - 11.40)

3.

Absenoldeb disgyblion - sesiwn dystiolaeth 2

Laura Doel, Cyfarwyddwr Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) Cymru

Eithne Hughes, Cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr undebau arweinwyr mewn ysgolion.

 

(11.45 - 12.35)

4.

Absenoldeb disgyblion - sesiwn dystiolaeth 3

Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru
Jane Houston, Cynghorydd Polisi, Comisiynydd Plant Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru.

4.2 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Cadeirydd y byddai'r cwestiynau nas gofynnwyd yn cael eu hanfon at y Comisiynydd i gael ymateb ysgrifenedig.

 

(12.35)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr

Dogfennau ategol:

5.2

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

5.3

Gwaith craffu cyffredinol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Dogfennau ategol:

5.4

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

5.5

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

5.6

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr

Dogfennau ategol:

5.7

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

5.8

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

(12.35)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.35 - 12.45)

7.

Absenoldeb disgyblion - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiynau blaenorol.