Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/01/2025 - Y Pwyllgor Cyllid
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
|
Yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr 2025, cytunodd y Pwyllgor ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o ddechrau’r cyfarfod heddiw. |
||
(08.45 - 09.00) |
Cofrestru / Rhag-gyfarfod preifat |
|
(09.00 - 09.45) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau
ategol: FIN(6)-04-25 P1 –
Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno, yn amodol ar fân newidiadau. |
|
(09.45-10.00) |
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2025 Dogfennau
ategol: FIN(6)-04-25 P2 -
Nodyn Gwasanaethau Cyfreithiol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Trafododd y Pwyllgor y nodyn briffio ar Reoliadau
Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag
Anheddau Lluosog) (Cymru) 2025. Nododd y Pwyllgor adroddiad y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y rheoliadau hyn, cyn penderfynu
peidio â chyhoeddi adroddiad ar wahân. |
|
|
Cyhoeddus |
||
(10.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cyllid. 3.2 Datganodd Aelodau y buddiannau perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: ·
Mae Sam Rowlands AS yn aelod o'r
Clwb Carafanau a Chartrefi Modur. ·
Yn flaenorol, roedd gan rieni
Rhianon Passmore AS eiddo gyda West Wales Cottages. |
|
(10.00) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau. |
|
|
PTN 1 – Llythyr gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) – Gwelliannau'r Llywodraeth – 20 Ionawr 2025 Dogfennau ategol: |
||
|
PTN2 – Llythyr gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol at y Pwyllgor Cyllid: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) – Asesiad Effaith Rheoleiddiol Diwygiedig – 21 Ionawr 2025 Dogfennau ategol: |
||
|
PTN 3 – Llythyr gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) – Asesiad Effaith Rheoleiddiol Diwygiedig – 21 Ionawr 2025 Dogfennau ategol: |
||
|
PTN 4 – Llythyr gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) – Asesiad Effaith Rheoleiddiol Diwygiedig – 21 Ionawr 2025 Dogfennau ategol: |
||
|
PTN 5 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Cymhariaeth o newidiadau cyllidebol ar draws y cyfnod 2023-24 i 2025-26 – 22 Ionawr 2025 Dogfennau ategol: |
||
|
PTN 6 – Llythyr gan Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 – 22 Ionawr 2025 Dogfennau ategol: |
||
|
PTN 7 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor: Cyfalaf Trafodiadau Ariannol – 22 Ionawr 2025 Dogfennau ategol: |
||
|
PTN 8 – Dadansoddiad o Gyllideb Ddrafft LlC Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol 2025-26: tystiolaeth ychwanegol i Bwyllgor Cyllid y Senedd – 23 Ionawr 2025 Dogfennau ategol: |
||
(10.00 - 11.00) |
Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 4 Dyfed Alsop, Prif
Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru Rebecca Godfrey, Prif
Swyddog Gweithredu, Awdurdod Cyllid Cymru Dogfennau
ategol: Briff Ymchwil y
Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Llety
Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) gan y tystion a ganlyn: Dyfed Alsop,
Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru; Rebecca Godfrey, Prif Swyddog
Gweithredu, Awdurdod Cyllid Cymru; ac Anthony Pritchard, Prif Swyddog Digidol,
Awdurdod Cyllid Cymru. |
|
(11.00 - 11.10) |
Egwyl |
|
(11.10 - 12.10) |
Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 5 Y Cynghorydd Huw
Thomas, Llefarydd CLlLC ar yr Economi Ymwelwyr ac Arweinydd Cyngor Caerdydd Y Cynghorydd Rob
Stewart, Dirprwy Arweinydd CLlLC, Llefarydd ar yr Economi ac Arweinydd Cyngor
Abertawe Cynghorydd R
Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd Roland Evans,
Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd Dogfennau
ategol: FIN(6)-04-25 P3 –
CLILC Briff Ymchwil y
Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Llety
Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) gan y tystion a ganlyn: y Cynghorydd
Huw Thomas, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar yr Economi Ymwelwyr
ac Arweinydd Cyngor Caerdydd; y Cynghorydd Rob Stewart, Dirprwy Arweinydd
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llefarydd ar yr Economi, ac Arweinydd Cyngor
Abertawe; y Cynghorydd R Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr
Economi a Chymuned; a Roland Evans, Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned,
Cyngor Gwynedd. 6.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth i’r
Pwyllgor am y canlynol: ·
Amcangyfrifon Llywodraeth Cymru o’r
costau i gyngor unigol sy'n dymuno cyflwyno'r ardoll. |
|
(12.10 - 13.00) |
Cinio |
|
(13.00 - 14.00) |
Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 6 Barbara Griffiths
(North Wales Holiday Cottages), yn cynrychioli Cymdeithas Asiantaethau Cymru Alistair
Handyside, Cadeirydd Gweithredol Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU Carl Thomson,
Rheolwr Polisi Cyhoeddus, DU, Airbnb Lisa Stopher,
Rheolwr Gyfarwyddwr, West Wales Holiday Cottages Dogfennau
ategol: FIN(6)-04-25 P4 -
North Wales Holiday Cottages FIN(6)-04-25 P5 -
Cymdeithas Asiantaethau Cymru FIN(6)-04-25 P6 -
Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU, Cymru FIN(6)-04-25 P7 –
Airbnb FIN(6)-04-25 P8 –
Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol: Airbnb FIN(6)-04-25 P9 -
West Wales Holiday Cottages Briff Ymchwil y
Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Llety Ymwelwyr
(Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) gan y tystion a ganlyn: Barbara Griffiths
(North Wales Holiday Cottages), yn cynrychioli Cymdeithas Asiantaethau Cymru;
Alistair Handyside, Cadeirydd Gweithredol Cymdeithas Broffesiynol
Hunanddarparwyr y DU; Carl Thomson, Rheolwr Polisi Cyhoeddus, DU, Airbnb; a
Lisa Stopher, Rheolwr Gyfarwyddwr, West Wales Holiday Cottages. |
|
(14.00 - 14.10) |
Egwyl |
|
(14.10 - 15.10) |
Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 7 David Weston,
Cadeirydd, y Gymdeithas Gwely a Brecwast (DU) Andrew Green,
Rheolwr Polisi – Gweithrediadau Tafarndai, Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain Dr Llyr ap
Gareth, Pennaeth Polisi, Ffederasiwn Busnesau Bach Mathew Teasdale,
Rheolwr Gweithrediadau a Phartneriaethau: Cymru a Chaer, Cymdeithas Hosteli
Ieuenctid Dogfennau
ategol FIN(6)-04-25 P10
– Cymdeithas Gwely a Brecwast (y DU) FIN(6)-04-25 P11
– Llais Bragwyr a Tharfarndai FIN(6)-04-25 P12
– Ffederasiwan y Busnesau Bach (FSB Cymru) FIN(6)-04-25 P13
- Cymdeithas yr Hostelau Ieuenctid (YHA) Briff Ymchwil y
Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Llety
Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) gan y tystion a ganlyn: David
Weston, Cadeirydd y Gymdeithas Gwely a Brecwast (DU); Andrew Green, Rheolwr
Polisi – Gweithrediadau Tafarndai, Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Cymru; Dr Llŷr ap Gareth, Pennaeth Polisi, Ffederasiwn Busnesau
Bach; a Mathew Teasdale, Rheolwr Gweithrediadau a Phartneriaethau: Cymru a
Chaer, Cymdeithas Hosteli Ieuenctid. |
|
(15.10 - 15.20) |
Egwyl |
|
(15.20 - 16.20) |
Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 8 William McNamara,
Prif Swyddog Gweithredol, Cyrchfan Parc Cenedlaethol y Garreg Las Katherine
Squires, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Cymdeithas Parciau Gwyliau a
Pharciau Cartrefi Prydain Emma McQuillan,
Pennaeth Llywodraethu, Clwb Carafanau a Chartrefi Modur Dogfennau
ategol: FIN(6)-04-25 P14
– Bluestone National Park Resort FIN(6)-04-25 P15
– Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain FIN(6)-04-25 P16
– Tystiolaeth ychwanegol: Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi
Prydain FIN(6)-04-25 P17
- Y Clwb Carafannau a Chartrefi Modur FIN(6)-04-25 P17 –
Tystiolaeth ychwanegol: Y Clwb Carafannau a Chartrefi Modur Briff Ymchwil y
Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Llety
Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) gan y tystion a ganlyn: William
McNamara, Prif Swyddog Gweithredol, Cyrchfan Parc Cenedlaethol y Garreg Las;
Katherine Squires, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain;
ac Emma McQuillan, Pennaeth Llywodraethu, Clwb Carafanau a Chartrefi Modur. 9.2 Cytunodd Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau
Cartref Prydain i ddarparu’r canlynol i’r Pwyllgor: ·
Gwaith ymchwil a wnaed ynghylch eithriadau rhag ardollau
mewn gwledydd eraill. |
|
(16.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn. Cofnodion: 10.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.20 - 16.30) |
Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
PDF 150 KB