Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2024, derbyniodd y Pwyllgor gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw.

Cofrestru (09.15-09.30)

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

(09.30-10.30)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-03-24 P1 – Adroddiad drafft

 

·         Pennod 1 – Cyflwyniad

·         Pennod 2 – Trosolwg a Chyd-destun Economaidd

·         Pennod 3 – Naratif a Chyflwyniad y Gyllideb

·         Pennod 4 – Ysgogwyr Cyllidol

·         Pennod 5 – Cymorth Costau Byw

·         Pennod 6 – Cynaliadwyedd Gwasanaethau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd arno yn amodol ar fân newidiadau.

 

(10.30-11.00)

3.

Adolygiad o'r Datganiad o Egwyddorion

Dogfennau ategol:

FIN(6)-03-24 P2 – Papur blaen

FIN(6)-03-24 P3 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – 14 Tachwedd 2023

FIN(6)-03-24 P4 – Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – 12 Rhagfyr 2023

FIN(6)-03-24 P5 – Llythyr gan Gomisiwn y Senedd – 11 Rhagfyr 2023

FIN(6)-03-24 P6 – Llythyr gan Archwilio Cymru – 20 Rhagfyr 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar yr adolygiad o'r Datganiad o Egwyddorion, nododd y safbwyntiau diweddaraf a fynegwyd gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol a chytunwyd i adlewyrchu'r rhain yn adroddiad y Pwyllgor yn y dyfodol ar newidiadau i Brotocol Proses y Gyllideb. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Bwyllgor y Llywydd i ofyn am farn y Comisiwn Etholiadol am newidiadau i'r Protocol.

 

(11.00-11.15)

4.

Adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol: Gweinyddu'r Dreth Incwm yng Nghymru 2022-23

Dogfennau ategol:

FIN(6)-03-24 P7 – Llythyr gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (yn cynnwys linc i’w hadroddiad, ‘Gweinyddu Treth Incwm Cymru 2022-23’ – 19 Ionawr 2024.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.