Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/09/2023 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofrestru (09.00-09.15)

Cyfarfod preifat cyn y prif gyfarfod (09.15-09.30)

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1  Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Datganodd Mike Hedges AS ei fod yn Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS).

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amserlen y gyllideb ar gyfer 2024-25 - 12 Medi 2023

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Archwilio Cymru – Gwaith craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23 a Chynllun Blynyddol 2024-25: Sesiwn dystiolaeth

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Archwilio Cymru

Kathryn Chamberlain, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol

Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-14-23 P1 - Archwilio Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23

FIN(6)-14-23 P2 - Archwilio Cymru: Adroddiad ar ganfyddiadau'r archwiliad – y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023

FIN(6)-14-23 P3 - Archwilio Cymru: Cynllun Blynyddol 2023-24

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilio Cymru ar gyfer 2022-23 a Chynllun Blynyddol 2024-25 gan Archwilydd Cyffredinol Cymru; Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; a swyddogion Archwilio Cymru.

 

3.2 Cytunodd Archwilio Cymru i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:

 

·         Manylion ychwanegol am gyfradd trosiant staff ar draws y sefydliad yn ystod y deuddeg mis blaenorol, gan gynnwys dadansoddiad o rolau'r staff a adawodd a nifer y staff archwilio cymwysedig a adawodd y sefydliad yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-10.45)

5.

Archwilio Cymru - Amcangyfrif Atodol ar gyfer 2023-24

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Archwilio Cymru

Kathryn Chamberlain, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol

Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-14-23 P4 – Archwilio Cymru - Amcangyfrif Atodol

FIN(6)-14-23 P5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Taliad costau byw – 1 Awst 2023

FIN(6)-14-23 P6 – Llythyr at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Taliad costau byw – 11 Gorffennaf 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor Amcangyfrif Atodol Archwilio Cymru ar gyfer 2023-24 ag Archwilydd Cyffredinol Cymru; Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; a swyddogion Archwilio Cymru.

 

(10.45-11.15)

6.

Sesiwn friffio dechnegol ar weinyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru: Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

Jonathan Athow, Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth Cwsmeriaid a Dylunio Trethi, CThEF

Katherine Gross-Niklaus, Uwch-gynghorydd Polisi Treth Incwm Ddatganoledig, CThEF

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-14-23 P7 – CThEF

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol ar weinyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru gan Jonathan Athow, Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth Cwsmeriaid a Dylunio Treth, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi; a Katherine Gross-Niklaus, Uwch Gynghorydd Polisi Treth Incwm Datganoledig, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.

 

(11.15-11.30)

7.

Sesiwn friffio dechnegol ar weinyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru: Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.30-11.45)

8.

Archwilio Cymru – Gwaith craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23 a Chynllun Blynyddol 2024-25 / Amcangyfrif Atodol 2023-24: Trafod y dystiolaeth

8.1 The Committee considered the evidence received and agreed to write to Audit Wales in relation to the Annual Report and Accounts 2022-23; and the Supplementary Estimate 2023-24.

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at Archwilio Cymru ynghylch Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23 ac Amcangyfrif Atodol 2023-24.

 

(11.45-12.00)

9.

Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017: Adolygiad annibynnol

Dogfennau ategol:

FIN(6)-14-23 P8 – Papur eglurhaol

FIN(6)-14-23 P9 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – 6 Gorffennaf 2023

FIN(6)-14-23 P10 - Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017: Adolygiad annibynnol – crynodeb gweithredol

Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017: Adolygiad annibynnol (PDF 2 MB)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y materion sy’n codi o'r adolygiad annibynnol o'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

(12.00-12.15)

10.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid

Dogfennau ategol:

FIN(6)-14-23 P11 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid.

 

(12.15-12.30)

11.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - Cynghorydd Arbenigol a sesiynau tystiolaeth

Dogfennau ategol:

FIN(6)-14-23 P12 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am Fil Diwygio’r Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar y trefniadau ar gyfer craffu ar oblygiadau ariannol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).