Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/12/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(09.00-09.15) |
Cofrestru |
|
(09.15-09.30) |
Rhag-gyfarfod preifat |
|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cyllid. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
Dirprwyodd Hannah Blythyn AS ar ei rhan. |
|
(09.30) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau. |
|
|
PTN 1 – Llythyr gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol (IMSC) – 2 Rhagfyr 2024 Dogfennau ategol: |
||
|
PTN 2 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: 42ain Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig – 6 Rhagfyr 2024 Dogfennau ategol: |
||
|
PTN 3 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 – 2 Rhagfyr 2024 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-11.00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26: Sesiwn dystiolaeth 1 Mark Drakeford
AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys,
Cyfarwyddwr Trysorlys, Llywodraeth Cymru Emma Watkins,
Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth, Llywodraeth
Cymru Dogfennau
ategol: Briff Ymchwil y
Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar gyllideb ddrafft
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 gan y tystion a ganlyn: Mark Drakeford AS,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru; Andrew
Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru; ac Emma Watkins, Dirprwy
Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i ofyn am wybodaeth ychwanegol am Gyllideb
Ddrafft 2025-26. |
|
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.00-11.15) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(11.15-11.30) |
Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019: Adolygiad ôl-ddeddfwriaethol Dogfennau
ategol: FIN(6)-27-24 P1 –
Papur cwmpas a dull Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu ar yr adolygiad
ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, a
chytunodd ar y camau gweithredu a oedd wedi’u cynnwys yn y papur. |
PDF 131 KB