Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/10/2024 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00-0915)

Cofrestru

(09.15-09.30)

Rhag-gyfarfod preifat

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Datganodd Mike Hedges AS ei fod yn Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn y Senedd.

 

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

PTN 1 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Ystadegau Alldro Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2022-23 - 3 Hydref 2024

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) - 3 Hydref 2024

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 - Llythyr gan Undeb PCS: Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26 - 7 Hydref 2024

Dogfennau ategol:

(09.30-11.00)

3.

Adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth

Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Gwella

Katrin Shaw, Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-20-24 P1 - Adolygiad annibynnol o ymchwiliadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i gwynion Cod Ymddygiad

Briff Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar yr adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwella, Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; a Katrin Shaw, Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau, Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

3.2        Cytunodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:

 

·         Amserlen y camau gweithredu y mae’r swyddfa yn bwriadu eu cymryd yn dilyn yr adolygiad annibynnol o ymchwiliadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i gwynion ynghylch y Cod Ymddygiad.

 

(11.00-11.15)

Egwyl

(11.15-12.15)

4.

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Sesiwn dystiolaeth

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol, Llywodraeth Cymru

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cyllideb Atodol gyntaf Llywodraeth Cymru 2024-25

Briff Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2024-25 gan Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru; Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaethau Ariannol, Llywodraeth Cymru; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Busnes y Llywodraeth a’r Gyllideb, Llywodraeth Cymru.

 

(12.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.15-12.25)

6.

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.25-12.35)

7.

Adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.