Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/05/2024 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

Cofrestru

(09.15-09.30)

Rhag-gyfarfod preifat

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS a Peter Fox AS.

 

1.3 Roedd Alun Davies AS yn dirprwyo ar ran Rhianon Passmore AS; ac roedd Altaf Hussain AS yn dirprwyo ar ran Peter Fox AS.

 

(09.30-10.15)

2.

Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol: Sesiwn dystiolaeth 5

Shona Robison ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth yr Alban

David Stevenson, Pennaeth yr Uned Cydlynu Cyllidol, Llywodraeth yr Alban

Ben Kerfoot, Uned Cydlynu Cyllidol, Llywodraeth yr Alban

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-12-24 P1 - Papur cefndirol gan Lywodraeth yr Alban

Briff Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am ei ymchwiliad i Gysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol gan Shona Robison MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth yr Alban.

 

(10.15)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o ddechrau’r cyfarfod ar 22 Mai

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.15-10.30)

4.

Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.30-11.00)

5.

Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25: Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol

Dogfennau ategol:

FIN(6)-12-24 P2 – Papur blaen

FIN(6)-12-24 P3 – Llythyr gan Gomisiwn y Senedd – 10 Mai 2024

FIN(6)-12-24 P4 – Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Senedd 2024-25

FIN(6)-12-24 P5 - Amcangyfrif Atodol Cyntaf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2024-25

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y papur eglurhaol ac amcangyfrifon atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; a Chomisiwn y Senedd.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Comisiwn y Senedd i sesiwn dystiolaeth ar ei amcangyfrif atodol.

 

(11.00-11.30)

6.

Ymchwiliad i Gyfalaf Trafodion Ariannol: Papur Cwmpasu

Dogfennau ategol:

FIN(6)-12-24 P6 – Papur cwmpasu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr ynghylch Cyfalaf Trafodion Ariannol.

 

(11.30-11.45)

7.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Trafod y llythyr drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-12-24 P7 – Llythyr drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft am Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) a chytunodd arno heb ddim newidiadau.