Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:

 

  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol – Cyhoeddi Cynllun Gweithredu (Cyfnod 1) Adroddiad y Grŵp Arbenigol (30 munud) Gohiriwyd 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn trafodion Cyfnod 3 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru).
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm.

 

Cadarnhaodd y Llywydd y bydd egwyl fer yn cael ei chymryd cyn dechrau trafodion Cyfnod 3 i hwyluso'r paratoadau terfynol, ac y bydd y gloch yn cael ei chanu 5 munud cyn ailddechrau trafodion.

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 23 Mai 2023  

 

·       Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Ddeddf Trefn Gyhoeddus – Goblygiadau i Gymru (30 munud)

 

Dydd Mawrth 6 Mehefin 2023

 

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd yng Nghanolbarth Cymru (30 munud)

·       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adolygiad o Gysylltiadau Addysg â Chyflogwyr (30 munud)

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 14 Mehefin 2023 -

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch (60 munud) 
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) (30 munud)

 

Nododd y Llywydd y bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion Dadl Aelodau ar gyfer 14 Mehefin yn disgyn yn ystod toriad hanner tymor mis Mai, er mwyn darparu ar gyfer dwy Ddadl Aelodau i gael eu cynnal y tymor nesaf.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Y Bil Seilwaith (Cymru) - amserlen

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith er mwyn trafod yr egwyddorion cyffredinol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ohirio penderfyniad ar yr amserlen ar gyfer y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor hwnnw a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch cais i ymgymryd â busnes y Pwyllgor yng Nghaeredin a Barcelona

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes â chais i aelodau'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai adael y Cyfarfod Llawn yn fuan ar 7 Mehefin er mwyn ymgymryd â busnes y Pwyllgor yng Nghaeredin. Cytunodd y Pwyllgor hefyd â chais i Mabon ap Gwynfor AS beidio â bod yn y Cyfarfod Llawn ar 6 a 7 Mehefin oherwydd ei bresenoldeb yn yr Ŵyl Tai Cymdeithasol Ryngwladol yn Barcelona fel rhan o waith y Pwyllgor ar Gyflenwadau Tai Cymdeithasol.

 

 

6.

Ymgysylltu ag Ewrop

6.1

Gohebiaeth am Gyngres Cyngor Ewrop

Cofnodion:

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes fater parhaus enwebiadau'r Senedd ar gyfer cynrychiolwyr ar Gyngres Cyngor Ewrop. Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod dilynol.

 

 

6.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

 

Gofynnodd Darren Millar a oes ystyriaeth bellach wedi’i rhoi i drefniadau busnes y pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn yng ngoleuni gwaharddiad parhaus Rhys ab Owen AS o Grŵp Plaid Cymru. Nododd y Llywydd y byddai’r Pwyllgor Busnes yn ystyried y mater hwn ymhellach ochr yn ochr ag unrhyw oblygiadau sy’n codi yn deillio o ystyriaeth y Senedd o’r cynnig i sefydlu Pwyllgor Senedd yn ystod y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.