Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon. Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd
Jane Dodds a Darren Millar eu hymddiheuriadau. Roedd Russell George yn
bresennol yn y cyfarfod fel dirprwy. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd egwyl fer cyn dechrau trafodion Cyfnod 3,
gyda’r gloch yn canu 5 munud cyn ailddechrau.
Dydd
Mercher
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr
Busnes fod dehongliad Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei drefnu ar gyfer dadl
Mark Isherwood ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau, gyda'r bwriad y gellir
darparu hwn yn fyw ar Senedd.tv.
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn: Dydd Mawrth 13 Rhagfyr · Rheoliadau Ardrethu Annomestig
(Symiau Taladwy) (Cymru) 2022 (5 munud) Dydd Mawrth
10 Ionawr · Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Datblygu Clystyrau Technolegol yng Nghymru - cynhyrchu isotopau radio meddygol
ac arbenigedd meddygaeth niwclear (30 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i'r ychwanegiadau a ganlyn i'r amserlen: Dydd
Mercher 18 Ionawr 2023 -
|
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch Cyfnod 4 Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) Cofnodion: Yn dilyn yr
arwydd a roddwyd yn y cyfarfod blaenorol, nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr
a’r bwriad i gynnal dadl Cyfnod 4 ar Fil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion
Plastig Untro) (Cymru) yn syth ar ôl trafodion Cyfnod 3 heddiw. |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y canlynol:
|
|
Amserlen y Senedd |
|
Dyddiadau’r Toriadau Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y Sulgwyn a thoriad
yr haf, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor yr hydref a
thoriad y Nadolig yn 2023. |
|
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar drefniadau cyflwyno ar gyfer toriad y Nadolig, gan gynnwys
ar gyfer busnes y Cyfarfod Llawn am wythnos gyntaf y tymor, Cwestiynau
Ysgrifenedig a gwelliannau i’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol (Cymru). Cytunodd
y Pwyllgor hefyd ar y trefniadau ar gyfer gosod dogfennau yn ystod cyfnod y
Nadolig. |
|
Diwygio’r Senedd |
|
Trafod yr adroddiad drafft ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes yr adroddiad drafft a chytunodd arno, ac iddo gael ei osod a’i
ddarparu i Lywodraeth Cymru cyn diwedd y tymor, yn amodol ar ddau ychwanegiad:
nodi barn Siân Gwenllian y dylai deddfwriaeth Diwygio’r Senedd gynnwys y
teitlau Cymraeg ‘Llywydd’ a 'Dirprwy Lywydd' yn unig; a, nodi barn y Llywydd y
dylid pennu uchafswm cynyddol o Weinidogion Cymru yn 16. |