Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y bydd y Llywydd yn arwain teyrngedau i Aled Roberts ar
ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth gyda'r Prif Weinidog a chynrychiolwyr y
pleidiau yn cael eu galw i wneud cyfraniadau.
Dydd Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd
Mercher 1 Mawrth 2022 -
Dydd Mawrth
8 Mawrth 2022 -
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 2 Mawrth 2022 -
Dydd
Mercher 9 Mawrth 2022 -
Dydd
Mercher 16 Mawrth 2022 -
Fformat y Cyfarfod Llawn Trafododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer y
Cyfarfod Llawn ar ôl toriad hanner tymor mis Chwefror ac ystyriodd Asesiad Risg
wedi'i ddiweddaru. Ar ôl ystyried barn grwpiau pleidiau a mesurau i liniaru
risgiau, penderfynodd y Llywydd y gallai pob un o'r 60 Aelod fod yn y Siambr yn
bersonol ar unrhyw adeg o 1 Mawrth ymlaen. Roedd hyn yn unol ag arwydd gan y
Prif Weinidog o lacio nifer o gyfyngiadau eraill ddiwedd mis Chwefror. Byddai
cyfranogiad rhithwir a phleidleisio electronig yn parhau fel y gallai Aelodau
barhau i gymryd rhan o bell. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Aelodau'n cael eu
cynghori'n gryf i wisgo masgiau wyneb yn y Siambr ac eithrio wrth wneud
cyfraniad. Gofynnodd y Llywydd i'r Aelodau gael gwybod mai dyna oedd ei
disgwyliad hi. Dylai pob Aelod hefyd gymryd prawf llif unffordd cyn bod yn
bresennol yn bersonol. |
|
Amserlen y Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y cais am slot cyfarfod ychwanegol. |
|
Adolygiad o amserlen y pwyllgorau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes ganlyniad ei ymgynghoriad â phwyllgorau ac aelodau'r pwyllgorau
ynghylch amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau, a diwygiadau arfaethedig i
amserlen y pwyllgorau. Cytunwyd y
dylid ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion ynghylch yr amserlen arfaethedig a'r
amserlen ar gyfer gweithredu yn ei gyfarfod ar 17 Chwefror. Cytunodd y Rheolwyr
Busnes hefyd i ymgynghori â'u grwpiau ac i ystyried cynnig terfynol ar ôl y
toriad hanner tymor. |
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a
Gedwir) Ar gynnig y
Trefnydd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
adroddiad ar gyfer y Memorandwm Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a
Gedwir) o 3 Mawrth i 17 Mawrth. |