Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Amseriad disgwyliedig: Cyhoedd 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/05/2021 - Y Pwyllgor Busnes

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Busnes y Chweched Senedd.

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o unrhyw gyfarfod yn y dyfodol lle y trafodir materion yn ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor neu'r Senedd.

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

3.

Gweithdrefnau ac Arferion Gwaith y Pwyllgor

3.1

Ffyrdd o weithio

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfarfod fel arfer am 9.00am ar ddydd Mawrth yn ystod wythnosau eistedd, ac i wneud hynny'n breifat drwy gydol y Chweched Senedd er mwyn trafod unrhyw faterion sy'n ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor, neu'r Senedd.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyhoeddi Agendâu cyfarfodydd preifat, a hefyd y dylai cofnodion cyfarfodydd preifat gael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg o fewn wythnos i'r Pwyllgor gytuno arnynt.

 

 

4.

Trefn Busnes

4.1

Amserlen y Senedd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer y Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd grwpiau’r pleidiau ar gyfer gweddill tymor yr haf, a chytunwyd ar ddyddiadau toriad hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf 2021 a dyddiadau dros dro ar gyfer toriadau tan fis Chwefror 2022.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen y Cwestiynau Llafar i’r Gweinidogion, a chytunodd ar amserlen y Cwestiynau Llafar i Gomisiwn y Senedd.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd y cytunir ar amserlen y pwyllgorau ar ôl cadarnhau strwythur pwyllgorau newydd.

 

 

4.2

Y Defnydd o Amser y Senedd yn y Cyfarfod Llawn

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu un neu ddwy awr o ddadleuon y gwrthbleidiau bob wythnos, ac y caiff yr amser ei ddyrannu mewn blociau o awr mewn cymhareb o 16:13 i grwpiau’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn y drefn honno.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol hefyd:

 

·         parhau â'r arfer a fabwysiadwyd yn y Bumed Senedd ar gyfer amserlennu Dadleuon Aelodau hyd at bob yn ail wythnos;

·         parhau â'r arfer a fabwysiadwyd yn y Bumed Senedd ar gyfer amserlennu Cynigion Deddfwriaethol Aelodau o leiaf unwaith bob hanner tymor;

·         dyrannu 20 munud o Fusnes y Senedd bob wythnos ar gyfer Cwestiynau Amserol;

·         dyrannu 5 munud o Fusnes y Senedd bob wythnos ar gyfer Datganiadau 90 Eiliad;

·         cynnal Dadl Fer fel yr eitem olaf o fusnes bob dydd Mercher ac i ddyrannu 30 munud iddi; ac

·         y dylai dadleuon gwrthbleidiau, pwyllgorau a'r Aelodau gael eu hamserlennu ar gyfer cyfnod o awr yr un fel arfer, gan fod y Senedd bellach yn cyfarfod ar ffurf hybrid eto.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor ei bod yn bwriadu cynnal balot ar gyfer Bil Aelod yn ystod yr hanner tymor nesaf.

 

Cynigiodd y Llywydd 'ddadl fawreddog' i'w chynnal unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, ac yng ngoleuni cefnogaeth y Pwyllgor, gofynnodd i swyddogion lunio cynigion. Gofynnodd y Llywydd hefyd i'r Rheolwyr Busnes drafod syniadau am eitemau newydd o fusnes y Senedd gyda'u grwpiau.

 

 

5.

Comisiwn y Senedd

5.1

Comisiwn y Senedd

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y papur a chytunwyd i drafod gyda'u grwpiau a dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf. 

 

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Sefydlu pwyllgor interim at ddibenion Rheol Sefydlog 21

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd Nodiadau Cyngor Cyfreithiol yn cael eu paratoi er mwyn helpu i lywio dadleuon ar 26 Mai ar gynigion i gymeradwyo offerynnau statudol gwneud cadarnhaol a chytunwyd mewn egwyddor i sefydlu pwyllgor interim ar gyfer craffu ar offerynnau statudol o dan Reol Sefydlog 21.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i sefydlu Pwyllgor Offerynnau Statudol interim gyda phedwar aelod (gan gynnwys y Cadeirydd), gydag un aelod o'r Grŵp Llafur, un o grŵp y Ceidwadwyr ac un o grŵp Plaid Cymru, yn ogystal â'r Dirprwy Lywydd fel Cadeirydd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynigion perthnasol i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Mai.

 

 

 

Unrhyw faterion eraill

Strwythur Pwyllgorau

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor y bydd papur cychwynnol ar strwythur pwyllgorau newydd ar agenda'r cyfarfod ddydd Mawrth, ac y bydd yn flaenoriaeth i'r Pwyllgor dros yr wythnosau nesaf.