Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd Jane Dodds a Darren Millar eu hymddiheuriadau. Roedd Russell George yn bresennol yn y cyfarfod fel dirprwy.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau (30 munud)
  • Dadl: Cyfnod 4 Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (15 munud)

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd egwyl fer cyn dechrau trafodion Cyfnod 3, gyda’r gloch yn canu 5 munud cyn ailddechrau.

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn trafodion Cyfnod 3.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 19:50.

 

Dydd Mercher   

 

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (15 30 munud)

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod dehongliad Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei drefnu ar gyfer dadl Mark Isherwood ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau, gyda'r bwriad y gellir darparu hwn yn fyw ar Senedd.tv.

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 18:55. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 13 Rhagfyr

·       Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau Taladwy) (Cymru) 2022 (5 munud)

 

Dydd Mawrth 10 Ionawr

 

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Clystyrau Technolegol yng Nghymru - cynhyrchu isotopau radio meddygol ac arbenigedd meddygaeth niwclear (30 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r ychwanegiadau a ganlyn i'r amserlen:

 

Dydd Mercher 18 Ionawr 2023 -

 

  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch Cyfnod 4 Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Cofnodion:

Yn dilyn yr arwydd a roddwyd yn y cyfarfod blaenorol, nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a’r bwriad i gynnal dadl Cyfnod 4 ar Fil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn syth ar ôl trafodion Cyfnod 3 heddiw.

 

4.2

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol: 

 

  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol a osodwyd ar 29 Tachwedd ar gyfer craffu at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 2 Mawrth 2023;
  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio a osodwyd ar 30 Tachwedd ar gyfer craffu at Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 16 Chwefror 2023; a
  • chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 3) ar Fil Banc Seilwaith y DU a osodwyd ar 30 Tachwedd ar gyfer craffu at Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 16 Ionawr 2023.

 

 

5.

Amserlen y Senedd

5.1

Dyddiadau’r Toriadau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig yn 2023.

 

5.2

Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar drefniadau cyflwyno ar gyfer toriad y Nadolig, gan gynnwys ar gyfer busnes y Cyfarfod Llawn am wythnos gyntaf y tymor, Cwestiynau Ysgrifenedig a gwelliannau i’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol (Cymru). Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar y trefniadau ar gyfer gosod dogfennau yn ystod cyfnod y Nadolig.

 

 

6.

Diwygio’r Senedd

6.1

Trafod yr adroddiad drafft ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad drafft a chytunodd arno, ac iddo gael ei osod a’i ddarparu i Lywodraeth Cymru cyn diwedd y tymor, yn amodol ar ddau ychwanegiad: nodi barn Siân Gwenllian y dylai deddfwriaeth Diwygio’r Senedd gynnwys y teitlau Cymraeg ‘Llywydd’ a 'Dirprwy Lywydd' yn unig; a, nodi barn y Llywydd y dylid pennu uchafswm cynyddol o Weinidogion Cymru yn 16.