Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan:

  • Darren Millar - dirprwyodd Russell George ar ei ran;

·         Siân Gwenllian - dirprwyodd Llyr Gruffydd ar ei rhan.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid canlynol i gyfarfod dydd Mawrth:

 

  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfiawnder yng Nghymru (30 45 munud) 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes fod grŵp Llafur yn bwriadu newid yr aelod sydd ganddo ar y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, o Alun Davies i Jane Bryant. Felly, tynnodd y Llywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer cyfarfod dydd Mercher:

 

  • Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 mun)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 14 Mehefin 2022 –

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 22 Mehefin 2022 –

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes am ei bwriad o ran ymestyn yr amser siarad a ddyrennir i Aelodau yn ystod y ddadl 120 munud ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ar 8 Mehefin.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) - Amserlen

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a gohirio penderfyniad ar yr amserlen ar gyfer y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

5.

Amserlen y Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais am slot cyfarfod ychwanegol ar 9 Mehefin 2022.

 

 

6.

Pwyllgorau

6.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i ganiatáu i Aelodau’r Pwyllgor gael eu hesgusodi o’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Mehefin er mwyn teithio i’r Alban ar gyfer cyfarfod cyntaf Fforwm y Pwyllgor Cyllid Rhyngseneddol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod ymhellach, mewn cyfarfod yn y dyfodol, ei rôl mewn perthynas ag ystyried ceisiadau i Aelodau fod yn absennol o’r Cyfarfod Llawn oherwydd busnes pwyllgor.

 

 

7.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Adolygiad o gymryd rhan o bell ac adolygu Rheol Sefydlog 34

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y byddai holiadur yr Aelodau yn ymwneud ag adolygiad y Pwyllgor Busnes o Reol Sefydlog 34 (Gweithdrefnau Brys) a chymryd rhan o bell ym musnes y Senedd yn cael ei ddosbarthu ar ôl y cyfarfod, a bod angen ymatebion erbyn 9 Mehefin, ac y byddai Fforwm y Cadeiryddion yn trafod ei ymateb i'r adolygiad yn ei gyfarfod ar 26 Mai.

 

 

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i’r Pwyllgor gyfarfod y tu allan i’w slot arferol ar 13 Mehefin ac i Aelodau’r Pwyllgor gael eu hesgusodi o’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Mehefin er mwyn teithio i Lundain ar gyfer gwaith rhyngseneddol gyda phwyllgorau cyfatebol yn nau Dŷ Senedd San Steffan.