Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Llywydd yn arwain teyrngedau i Aled Roberts ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth gyda'r Prif Weinidog a chynrychiolwyr y pleidiau yn cael eu galw i wneud cyfraniadau.

 

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 1 Mawrth 2022 -

 

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022 (20 munud)

Dydd Mawrth 8 Mawrth 2022 -

 

  • Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022 (15 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 2 Mawrth 2022 -

 

  • Dadl Fer – Rhys ab Owen (Canol De Cymru) (30 munud) Symudwyd i 9 Mawrth
  • Dadl Fer – John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)

 

Dydd Mercher 9 Mawrth 2022 -

 

  • Dadl Fer – John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) (30 munud) Symudwyd i 2 Mawrth
  • Dadl Fer – Rhys ab Owen (Canol De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mercher 16 Mawrth 2022 -

 

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) - Cynllunio morol yng Nghymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Gareth Davies (Dyffryn Clwyd) (30 munud)

 

 

Fformat y Cyfarfod Llawn

Trafododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer y Cyfarfod Llawn ar ôl toriad hanner tymor mis Chwefror ac ystyriodd Asesiad Risg wedi'i ddiweddaru. Ar ôl ystyried barn grwpiau pleidiau a mesurau i liniaru risgiau, penderfynodd y Llywydd y gallai pob un o'r 60 Aelod fod yn y Siambr yn bersonol ar unrhyw adeg o 1 Mawrth ymlaen. Roedd hyn yn unol ag arwydd gan y Prif Weinidog o lacio nifer o gyfyngiadau eraill ddiwedd mis Chwefror. Byddai cyfranogiad rhithwir a phleidleisio electronig yn parhau fel y gallai Aelodau barhau i gymryd rhan o bell.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Aelodau'n cael eu cynghori'n gryf i wisgo masgiau wyneb yn y Siambr ac eithrio wrth wneud cyfraniad. Gofynnodd y Llywydd i'r Aelodau gael gwybod mai dyna oedd ei disgwyliad hi. Dylai pob Aelod hefyd gymryd prawf llif unffordd cyn bod yn bresennol yn bersonol.

 

 

4.

Amserlen y Pwyllgorau

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais am slot cyfarfod ychwanegol.

 

 

4.2

Adolygiad o amserlen y pwyllgorau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes ganlyniad ei ymgynghoriad â phwyllgorau ac aelodau'r pwyllgorau ynghylch amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau, a diwygiadau arfaethedig i amserlen y pwyllgorau.

Cytunwyd y dylid ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion ynghylch yr amserlen arfaethedig a'r amserlen ar gyfer gweithredu yn ei gyfarfod ar 17 Chwefror. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i ymgynghori â'u grwpiau ac i ystyried cynnig terfynol ar ôl y toriad hanner tymor.  

 

 

5.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

 

Ar gynnig y Trefnydd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) o 3 Mawrth i 17 Mawrth.