Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: Cyhoedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 20/05/2021 - Y Pwyllgor Busnes
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf
Pwyllgor Busnes y Chweched Senedd. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o unrhyw gyfarfod yn y dyfodol lle y trafodir materion yn ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor neu'r Senedd. Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
Gweithdrefnau ac Arferion Gwaith y Pwyllgor |
|
Ffyrdd o weithio Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
gyfarfod fel arfer am 9.00am ar ddydd Mawrth yn ystod wythnosau eistedd, ac i
wneud hynny'n breifat drwy gydol y Chweched Senedd er mwyn trafod unrhyw
faterion sy'n ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor, neu'r Senedd. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyhoeddi Agendâu cyfarfodydd preifat, a hefyd y dylai
cofnodion cyfarfodydd preifat gael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg o fewn
wythnos i'r Pwyllgor gytuno arnynt. |
|
Trefn Busnes |
|
Amserlen y Senedd Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes
ar yr amserlen ar gyfer y Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd grwpiau’r pleidiau ar
gyfer gweddill tymor yr haf, a chytunwyd ar ddyddiadau toriad hanner tymor y
Sulgwyn a thoriad yr haf 2021 a dyddiadau dros dro ar gyfer toriadau tan fis
Chwefror 2022. Nododd y Pwyllgor Busnes
amserlen y Cwestiynau Llafar i’r Gweinidogion, a chytunodd ar amserlen y
Cwestiynau Llafar i Gomisiwn y Senedd. Nododd y Pwyllgor Busnes
hefyd y cytunir ar amserlen y pwyllgorau ar ôl cadarnhau strwythur pwyllgorau
newydd. |
|
Y Defnydd o Amser y Senedd yn y Cyfarfod Llawn Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i drefnu un neu ddwy awr o ddadleuon y gwrthbleidiau bob wythnos, ac y
caiff yr amser ei ddyrannu mewn blociau o awr mewn cymhareb o 16:13 i grwpiau’r
Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn y drefn honno. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y canlynol hefyd: ·
parhau â'r arfer a fabwysiadwyd yn
y Bumed Senedd ar gyfer amserlennu Dadleuon Aelodau hyd at bob yn ail wythnos; ·
parhau â'r arfer a fabwysiadwyd yn
y Bumed Senedd ar gyfer amserlennu Cynigion Deddfwriaethol Aelodau o leiaf
unwaith bob hanner tymor; ·
dyrannu 20 munud o Fusnes y Senedd
bob wythnos ar gyfer Cwestiynau Amserol; ·
dyrannu 5 munud o Fusnes y Senedd
bob wythnos ar gyfer Datganiadau 90 Eiliad; ·
cynnal Dadl Fer fel yr eitem olaf o
fusnes bob dydd Mercher ac i ddyrannu 30 munud iddi; ac ·
y dylai dadleuon gwrthbleidiau,
pwyllgorau a'r Aelodau gael eu hamserlennu ar gyfer cyfnod o awr yr un fel
arfer, gan fod y Senedd bellach yn cyfarfod ar ffurf hybrid eto. Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor ei bod yn bwriadu cynnal balot ar gyfer Bil Aelod yn
ystod yr hanner tymor nesaf. Cynigiodd y
Llywydd 'ddadl fawreddog' i'w chynnal unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, ac yng
ngoleuni cefnogaeth y Pwyllgor, gofynnodd i swyddogion lunio cynigion.
Gofynnodd y Llywydd hefyd i'r Rheolwyr Busnes drafod syniadau am eitemau newydd
o fusnes y Senedd gyda'u grwpiau. |
|
Comisiwn y Senedd |
|
Comisiwn y Senedd Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y papur a chytunwyd i drafod gyda'u grwpiau a dychwelyd at y
mater yn y cyfarfod nesaf. |
|
Pwyllgorau |
|
Sefydlu pwyllgor interim at ddibenion Rheol Sefydlog 21 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd Nodiadau Cyngor
Cyfreithiol yn cael eu paratoi er mwyn helpu i lywio dadleuon ar 26 Mai ar
gynigion i gymeradwyo offerynnau statudol gwneud cadarnhaol a chytunwyd mewn
egwyddor i sefydlu pwyllgor interim ar gyfer craffu ar offerynnau statudol o
dan Reol Sefydlog 21. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i sefydlu Pwyllgor Offerynnau Statudol interim gyda phedwar
aelod (gan gynnwys y Cadeirydd), gydag un aelod o'r Grŵp Llafur, un o
grŵp y Ceidwadwyr ac un o grŵp Plaid Cymru, yn ogystal â'r Dirprwy
Lywydd fel Cadeirydd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynigion
perthnasol i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Mai. |
|
Unrhyw faterion eraill Strwythur
Pwyllgorau Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor y bydd papur cychwynnol ar strwythur pwyllgorau newydd
ar agenda'r cyfarfod ddydd Mawrth, ac y bydd yn flaenoriaeth i'r Pwyllgor dros
yr wythnosau nesaf. |