Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Hurford 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad gan y Cadeirydd (9.00 - 9.05)

Eitem 1 – Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 ac 14 Mawrth

 

Cofnodion:

§  Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ymunodd Mike Redhouse ar-lein.

§  Bu'r Bwrdd yn myfyrio ar y cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda'r Grwpiau Cynrychioliadol, sesiynau Galw Heibio'r Aelodau a chyfarfod â'r Prif Weithredwr.

Penderfyniad:

§  Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 ac 14 Mawrth.

Cam i’w gymryd:

§  Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 a 14 Mawrth – mae cofnodion cyfarfod mis Mawrth wedi’u cyhoeddi.

§  Cytunodd y Bwrdd i gael papur briffio yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am waith, amseriad a chylch gwaith ymchwiliad y Pwyllgor Safonau i urddas a pharch yn y Senedd – darperir rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor Safonau ar urddas a pharch ym Mhapur 8 – Papur Diweddaru, Atodiad C.

 

2.

Adolygiad Thematig o Gymorth Staffio (9.05 - 10.30)

Eitem 2 – Gwaith Cwmpasu Cyfnod 2

 

Cofnodion:

§  Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad terfynol Cam Un a gynhyrchwyd gan Beamans, gan gynnwys yr opsiynau ar gyfer fframwaith tâl a graddfeydd diwygiedig, a'i ddull o weithredu ar gyfer camau nesaf yr adolygiad hwn.

Penderfyniad:

§  Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi’r adroddiad cyn gynted â phosibl. At hynny, cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi ei ymateb i’r adroddiad yn nodi’r opsiwn a ffefrir ganddo i gyflwyno fframwaith teuluoedd swyddi, Opsiwn 2 – cyhoeddwyd yr adroddiad ddydd Iau 23 Mai.

§  Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori â’r Aelodau, staff yr Aelodau, yr undebau llafur a Chomisiwn y Senedd ar yr opsiwn a ffefrir ganddo a bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng nghyfarfod mis Gorffennaf – cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 11 a 27 Mehefin a cheir diweddariad ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad ym Mhapur 2 – Cymorth Staffio Cam Dau.

§  Cytunodd y Bwrdd i fwrw ymlaen â Cham Dau o’r adolygiad i ddatblygu’r fframwaith newydd a deunyddiau cysylltiedig, gyda’r bwriad o ddisodli’r fframwaith tâl a graddio presennol ar gyfer Staff Cymorth, gyda fframwaith newydd ar gyfer y Seithfed Senedd.

§  Cytunodd y Bwrdd i gysylltu â Beamans i gynnal Cam Dau yr adolygiad drwy drefniant dyfarnu uniongyrchol – cysylltwyd yn ffurfiol â Beamans ddydd Mawrth 25 Mehefin gyda manyleb yn nodi'r gofynion ar gyfer Cam Dau o'r adolygiad thematig o gymorth staffio. Y terfyn amser ar gyfer ymateb yw 12:00, ddydd Mawrth 9 Gorffennaf.

§  Cytunodd y Bwrdd y dylai Cam Tri o’r adolygiad staffio – sydd â’r nod o bennu’r Lwfans Staffio, y dylid darparu ar ei gyfer yn y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd – gael ei gynnal ar yr un pryd â Cham Dau yr adolygiad. Cytunodd y Bwrdd i ystyried y dull arfaethedig ar gyfer Cam Tri yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf – darperir diweddariad ym Mhapur 3 – Cwmpasu Cam Tri Cymorth Staffio.

Cam i’w gymryd:

§  Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi adroddiad terfynol Beamans, a’r ymateb, i’w gyhoeddi at ddibenion ymgynghoriad sy’n dod i ben ar 27 Mehefin – ceir diweddariad ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad ym Mhapur 2 – Cymorth Staffio Cam Dau.

§  Yr Ysgrifenyddiaeth i ddrafftio’r dull gweithredu arfaethedig ar gyfer Cam Tri o’r adolygiad i’w ystyried yng nghyfarfod mis Gorffennaf – darperir diweddariad ym Mhapur 3 – Cwmpasu Cam Tri Cymorth Staffio. 

 

 

 

3.

Adolygiad Thematig o Daliadau (10.30 - 11.30

Eitem 3 – Ffrwd Waith Tri: Colli Swydd

 

Cofnodion:

§  Bu'r Bwrdd yn myfyrio ar ymchwil a wnaed ar daliadau colli swydd ac ystyried yr adborth o'r sesiynau galw heibio a gynhaliwyd gyda'r Aelodau y diwrnod blaenorol.

Penderfyniad:

§  Cytunodd y Bwrdd i ystyried opsiynau polisi ymhellach yng nghyfarfodydd Gorffennaf a Medi gyda’r bwriad o ymgynghori ar gynigion yn yr hydref – ceir diweddariad ar opsiynau polisi ym Mhapur 5 – Colli Swydd.

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad Thematig o'r PPSA (11.45 - 12.30)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y PPSA - cyflwyniad

 

Cofnodion:

§  Bu'r Bwrdd yn ystyried adborth gan Jane, fel arweinydd y Bwrdd, ar gyfer yr adolygiad ar ymchwil a chanfyddiadau hyd yn hyn ar ôl cynnal nifer o gyfarfodydd gydag uwch aelodau'r grŵp ac Aelodau'r meinciau cefn i drafod eu barn ar PPSA.

Penderfyniad:

§  Cytunodd y Bwrdd i ystyried opsiynau polisi ymhellach yng nghyfarfodydd Gorffennaf a Medi gyda’r bwriad o ymgynghori ar gynigion yn yr hydref –Bydd PPSA ar yr agenda ar gyfer cyfarfod Bwrdd mis Medi cyn ymgynghoriad yr hydref.

 

5.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Senedd (13.00 - 13.05)

Gwybodaeth ar lafar am Dciwygio'r Senedd

 

Cofnodion:

§  Roedd disgwyl i’r Bwrdd gael diweddariad llafar ar gynnydd Gwelliant a gyflwynwyd ar gyfer trafodion Cyfnod 2 o Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).

§  Nid oedd y Pwyllgor wedi cyrraedd y rhan honno o'r trafodion yn ystod cyfarfod y Bwrdd, ac felly cytunodd y Bwrdd i gael diweddariad ar ôl y cyfarfod.

Cam i’w gymryd:

§  Yr Ysgrifenyddiaeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd yn dilyn y cyfarfod ar gynnydd y Gwelliant – darperir y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Senedd ym Mhapur 8 – Papur Diweddaru.

 

 

6.

Polisïau Cwyno a Disgyblu (13.05 - 13.45)

Eitem 6 – y wybodaeth ddiweddaraf

 

Cofnodion:

§  Bu’r Bwrdd yn ystyried a ddylid adolygu’r polisi Cwynion a Disgyblu cyn i’r Pwyllgor Safonau gwblhau ei ymchwiliad i Urddas a Pharch yn y Senedd.

§  Nododd y Bwrdd yr adborth a gafwyd yng nghyfarfod y Grŵp Cynrychiolwyr Staff y diwrnod cynt, bod angen adolygu'r polisi a chodwyd materion penodol ynghylch ymdrin â materion yn anffurfiol a chynnwys cynrychiolwyr undebau llafur.

Penderfyniad:

§  Cytunodd y Bwrdd i aros am ganlyniad ymchwiliad y Pwyllgor Safonau i urddas a pharch cyn unrhyw adolygiad o’r Polisïau Cwyno a Disgyblu – mae rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor Safonau ar urddas a pharch ym Mhapur 8 – Papur Diweddaru, Atodiad C.

§  Cytunodd y Bwrdd i egluro ac ymateb i'r materion a godwyd yn y Grŵp Cynrychiolwyr Staff trwy'r Llythyr Diweddaru – cyhoeddwyd y Llythyr Diweddaru ddydd Mercher 12 Mehefin.

 

7.

Adroddiad Blynyddol Drafft a Chynllun Gweithredu Adolygu Effeithiolrwydd - Y wybodaeth ddiweddaraf (13.45 - 14.15

Eitem 7 – Papur eglurhaol

Atodiad A - Adroddiad Blynyddol drafft

Atodiad B - Cynllun Gweithredu Adolygu Effeithiolrwydd

Cofnodion:

§  Cytunodd y Bwrdd ar ei Adroddiad Blynyddol a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr ychydig wythnosau nesaf. At hynny, nododd y Bwrdd y diweddariad ar gynllun gweithredu'r adolygiad effeithiolrwydd.

Cam i’w gymryd:

§  Yr Ysgrifenyddiaeth i drefnu cyhoeddi a gosod yr Adroddiad Blynyddol – cyhoeddwyd yr Adroddiad Blynyddol ddydd Mercher 12 Mehefin.

 

8.

Papur diweddaru (14.15 - 14.30)

Eitem 8 - Papur diweddaru (gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am adroddiad)

 

Cofnodion:

§  Nododd y Bwrdd y papur diweddaru a’r flaenraglen waith.

Penderfyniad:

§  Cytunodd y Bwrdd ar ei raglen o weithgarwch a’i amserlen o gyfarfodydd ar gyfer y 12 mis nesaf er mwyn datblygu, ymgynghori a chyhoeddi’r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd erbyn mis Gorffennaf 2025.

Unrhyw fusnes arall

§  Cadarnhaodd Aelodau’r Bwrdd bresenoldeb ar gyfer y cyfarfod nesaf a gynhelir ddydd Iau 4 Gorffennaf 2024.