Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Daniel Hurford
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad y Cadeirydd (13.30 - 13.40) Papur 1 – Cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref Cofnodion: §
Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ymunodd Mike Redhouse yn rhithwir. §
Cyflwynodd
y Cadeirydd Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Comisiwn y Senedd, i'r Bwrdd. §
Cytunwyd
ar gofnodion cyfarfod 12 Hydref. Cam i’w gymryd: §
Bydd
Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd yn cyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12
Hydref. |
|
|
Diweddariad Economaidd (13.40 - 14.00) Papur 2 – Rhagolygon
Economaidd Cofnodion: §
Cafodd y Bwrdd ddiweddariad gan Martin Jennings (Pennaeth
Uned Craffu Ariannol y Tîm Ymchwil) ar yr hinsawdd economaidd bresennol a’r
rhagolygon. §
Trafododd y Bwrdd oblygiadau posibl y cyfraddau llog
uchel parhaus a chwyddiant bwyd cyn eu trafodaethau ynghylch cymorth ariannol i
Staff Cymorth, gan gynnwys addasiadau cyflog ar gyfer 2024-25. §
Hefyd, trafododd y Bwrdd y goblygiadau posibl i'r
Penderfyniad presennol. Penderfyniad: §
Cytunodd y Bwrdd i rannu'r Diweddariad Economaidd a
baratowyd gan Wasanaeth Ymchwil Comisiwn y Senedd gyda’r rhai a oedd yn
bresennol yng nghyfarfodydd y Grŵp Cynrychiolwyr. |
|
|
Diweddariad ar Adolygiad Thematig y PPSA (14.00 - 14.15) Papur 3 – Diweddariad
ar yr Adolygiad Thematig o’r Lwfans i Bleidiau Gwleidyddol Cofnodion: §
Rhoddodd Jane Roberts, arweinydd y Bwrdd adolygu
thematig, ddiweddariad ar yr adolygiad thematig o’r Lwfans Cymorth i Bleidiau
Gwleidyddol sy'n cael ei gynnal fel rhan o Raglen Waith Strategol y
Bwrdd. Penderfyniad: §
Trafododd y Bwrdd y dull arfaethedig ar gyfer camau nesaf
yr adolygiad thematig hwn a chytunodd arno. Cam i’w gymryd: §
Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at y Prif Weithredwr a’r
Swyddog Cyfrifyddu i sôn am adborth a gafwyd gan Aelodau ynghylch teithio a
datblygu polisi. |
|
|
Diweddariad ar yr Adolygiad Staffio (14.15 - 14.30) Papur 4 – Diweddariad
ar yr Adolygiad o Gyflogau a Graddfeydd Staff Cofnodion:
|
|
|
Diweddariad ar y Cyflog Byw Gwirioneddol (10.30 - 10.45) Papur 5 – Goblygiadau’r
Cyflog Byw Gwirioneddol i lefelau cyflog Aelodau o’r Senedd Cofnodion: §
Nododd
y Bwrdd y cynnydd yn y gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol i £12 yr awr, fel y'i
cyfrifwyd gan y Resolution Foundation ac a gyhoeddir yn flynyddol gan y Sefydliad Cyflog Byw. §
Trafododd
y Bwrdd yr opsiynau sydd ar gael iddo i fynd i'r afael â'r cynnydd yn y Cyflog
Byw Gwirioneddol. Penderfyniad: §
Cytunodd
y Bwrdd i fynd i'r afael â'r mater hwn fel a ganlyn: -
Darparu
ar gyfer codiad dros dro i Bwynt Cyflog 1 Band 3 i lefel y Cyflog Byw
Gwirioneddol o 1 Rhagfyr 2023 hyd 31 Mawrth 2024. Mae hyn yn codi Pwynt Cyflog
1 Band 3 i £23,088. Bydd y newid hwn yn cael ei adlewyrchu yn nhaliadau cyflog
mis Rhagfyr ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt. -
Darparu
ar gyfer taliad unwaith ac am byth i Staff Cymorth a dderbyniodd gyflog Pwynt
Cyflog 1 Band 3 ym mis Tachwedd 2023, wedi’i gyfrifo’n unigol ar gyfer pob
aelod o staff, sy’n hafal â’r gwahaniaeth rhwng y cyflog a dderbyniwyd ar gyfer
Tachwedd 2023 a’r cyflog a fyddai wedi’i dderbyn pe bai’r Cyflog Byw
Gwirioneddol wedi’i gymhwyso o 1 Tachwedd 2023. Bydd hyn yn cael ei gynnwys yn
nhaliadau cyflog mis Rhagfyr. Effaith hyn yw y bydd staff yn derbyn taliadau
fel pe baent yn cael eu talu ar lefel y Cyflog Byw Gwirioneddol 1 Tachwedd. § Nododd y Bwrdd mai trefniant dros dro fyddai
hwn tan 1 Ebrill 2024, pan fydd Pwynt Cyflog 1 Band 3 yn symud i lefelau cyflog
newydd arfaethedig 2024-25 (yn amodol ar yr ymgynghoriad ynghylch yr Adolygiad
Blynyddol a’r penderfyniad ar gyfer 2024-25). §
Cytunodd
y Bwrdd y byddai unrhyw gostau ychwanegol sy’n ymwneud â’r Cyflog Byw
Gwirioneddol yn 2023-24 cael eu talu drwy gronfeydd canolog, yn hytrach na
thrwy gyllidebau staffio presennol yr Aelodau. § Yn unol ag adran 14(3) o Fesur 2010, cytunodd
y Bwrdd bod amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn
rhesymol i'r cyfyngiadau a osodir gan adran 14(2) o Fesur 2010 beidio â bod yn
gymwys. Trafododd y Bwrdd yr amgylchiadau economaidd presennol ac yn benodol
bod y DU wedi profi cyfnod o chwyddiant eithriadol o gyflym, sy’n parhau i gael
effaith sylweddol ar gostau byw. Mae Nodiadau Esboniadol Mesur 2010 yn benodol yn nodi bod
cyfnod o chwyddiant eithriadol o gyflym yn enghraifft o amgylchiadau eithriadol. §
Nododd
y Bwrdd mai dyma’r tro cyntaf i’r Cyflog Byw Gwirioneddol fynd y tu hwnt i
gyflogau rhai staff cymorth, sy’n golygu bod y rhai ar Fand 3 Pwynt Cyflog 1 yn
derbyn cyflog islaw’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Barn y Bwrdd oedd bod y rhain yn
amgylchiadau eithriadol a bydd paragraff yn cael ei fewnosod gan ganiatáu
unrhyw gynnydd blynyddol yn y Cyflog Byw Gwirioneddol yn y dyfodol uwchlaw'r pwynt cyflog isaf i addasu unrhyw gyflog sy'n is na hyn yn
awtomatig yn unol â'r Cyflog Byw Gwirioneddol. § Yn dilyn ymgysylltiad diweddar â staff a chynrychiolwyr undebau ar faterion cysylltiedig a'r angen i sicrhau bod taliadau yn cael ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
Diweddariad Costau Byw (10.45 - 11.15) Papur 6 – Taliad
Costau Byw 2023 i Staff Cymorth Cofnodion: § Trafododd
y Bwrdd opsiynau er mwyn rhoi cymorth ariannol i staff yn ystod yr argyfwng
costau byw parhaus. Penderfyniad: § Cytunodd
y Bwrdd i gynyddu lwfans staffio’r Aelodau a diwygio'r Penderfyniad i ddarparu
ar gyfer y taliad o £600 ym mis Ionawr 2024, pro rata yn unol ag oriau gwaith
contract, i helpu i dalu costau byw uwch. Gwneir y taliad yng nghyflogau mis
Ionawr (neu gellir ei wasgaru ar draws cyflog mis Ionawr, mis Chwefror a/neu
fid Mawrth os gofynnir am hynny), ac ni chaiff ei gyfuno â chyflogau. § Cytunodd
y Bwrdd y byddai unrhyw gostau ychwanegol sy’n ymwneud â Chostau Byw yn 2023-24
yn cael eu talu drwy gronfeydd canolog, yn hytrach na thrwy gyllidebau staffio
presennol yr Aelodau. § Yn unol
ag adran 14(3) o Fesur 2010, cytunodd y Bwrdd fod amgylchiadau eithriadol sy'n
golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiadau a osodir gan adran
14(2) o Fesur 2010 beidio â bod yn gymwys. Trafododd y Bwrdd yr amgylchiadau
economaidd presennol ac yn benodol bod y DU wedi profi cyfnod o chwyddiant
eithriadol o gyflym, sy’n parhau i gael effaith sylweddol ar gostau byw. Mae
Nodiadau Esboniadol Mesur 2010 yn benodol yn nodi bod cyfnod o chwyddiant
eithriadol o gyflym yn enghraifft o amgylchiadau eithriadol. § Cytunodd
y Bwrdd fod yr amgylchiadau eithriadol hyn yn ei gwneud yn gyfiawn ac yn
rhesymol iddo benderfynu bod taliad ychwanegol yn cael ei wneud i'r holl staff
cymorth. Nododd y Bwrdd hefyd yr ymdrinnir â hyn a'r penderfyniad a wnaed
ynghylch y Cyflog Byw Gwirioneddol drwy'r un Penderfyniad Eithriadol. § Yn dilyn
ymgysylltiad diweddar â staff a chynrychiolwyr undebau ar faterion cysylltiedig
a'r angen i sicrhau bod taliadau yn cael eu gwneud yn brydlon mewn ymateb i'r
amgylchiadau ariannol presennol, cytunodd y Bwrdd na fyddai'n briodol
ymgynghori â'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad. § Cytunodd
y Bwrdd i ymgynghori â’r Prif Weithredwr a’r Swyddog Cyfrifyddu fel sy’n
ofynnol gan Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010. Cam i’w gymryd: § Cytunodd
y Bwrdd i ysgrifennu at y Prif Weithredwr a'r Swyddog Cyfrifyddu i ymgynghori
ar y penderfyniadau a grybwyllwyd uchod. § Yn
amodol ar ymateb y Swyddog Cyfrifyddu, bydd y Bwrdd yn ysgrifennu at y Llywydd
i roi gwybod i’r Comisiwn am benderfyniad y Bwrdd i wneud Penderfyniad
Eithriadol ac i’w gyfleu i’r Aelodau a Staff Cymorth cyn canol mis
Rhagfyr.
|
|
|
Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2024/25 (11.15 - 12.30) Papur 7 – Adolygiad
Blynyddol o’r Penderfyniad ar Dâl a Lwfansau’r Aelodau ar gyfer 2024-25 Cofnodion: § Trafododd y Bwrdd y cynigion drafft ar yr
Adolygiad Blynyddol o Benderfyniad 2024/25. § Trafododd y Bwrdd y cynnydd arfaethedig i saith
o'r lwfansau yn y Penderfyniad ynghylch y costau a yr eir iddynt gan Aelodau
wrth gyflawni eu dyletswyddau. §
Cytunodd
y Bwrdd i ymgynghori ar y cynnig i gynyddu'r lwfansau hynny yn unol â chyfradd
y mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Ionawr. Cytunodd hefyd ar gynnig i
gadw lefel y lwfans atgyweirio hanfodol ar ei lefel bresennol. §
Nododd
y Bwrdd y bydd cyflogau'r Aelodau yn cynyddu 3 y cant yn unol â chymhwysiad
ASHE Cymru, yn amodol ar y mecanwaith cap a choler ym mharagraff 3.2.2. yn y
Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau ar gyfer 2023/24. §
Trafododd
y Bwrdd gynnig i ddatgymhwyso'r cap ar gyflogau staff ym mharagraff 7.2.2. yn y
Penderfyniad ac i gynyddu cyflogau yn ôl ffigur ASHE Cymru o 5.7 y cant. §
Nododd
y Bwrdd y bydd y taliad costau byw a ddyfarnwyd yn y flwyddyn ariannol hon o
£600 yn cael ei gyfuno i bob pwynt tâl o 1 Ebrill 2024. §
Trafododd
y Bwrdd nifer o gynigion ar gyfer newidiadau i'r Penderfyniad a gododd yn sgil
tystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr adolygiad thematig symleiddio, sy’n ymateb
uniongyrchol i adborth gan Aelodau a staff ac awgrymiadau gan Brif Weithredwr a
Chlerc y Senedd yn ei gohebiaeth. Penderfyniad: § Cytunodd y Bwrdd i gynnwys y cynigion hynny
yn yr Adolygiad Blynyddol. §
Cytunodd
y Bwrdd y bydd Adolygiad Blynyddol Penderfyniad 2024/25 yn cael ei gyhoeddi, ar
gyfer ymgynghori yn ei gylch, ar 15 Rhagfyr. Cam i’w gymryd: § Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn cynhyrchu'r ddogfen
ymgynghori, a'r ohebiaeth gysylltiedig. §
Bydd
Aelodau a'u staff yn cael eu hysbysu am y cyhoeddiad a’r dyddiad cau ar gyfer
yr ymgynghoriad ar 26 Ionawr. |
|
|
Diweddariad ar Daliadau Aelodau (13.30 - 14.15) Papur 8 – Adolygiad
o Daliadau a Chymorth Personol i’r Aelodau Cofnodion: §
Darparodd
y Cadeirydd, arweinydd y Bwrdd adolygu thematig, y wybodaeth gefndirol am yr
adolygiad thematig o Daliadau a Chymorth Personol i’r Aelodau ac ystyriodd y
Bwrdd ei ddull, cwmpas a chylch gorchwyl drafft ar gyfer yr
adolygiad. Penderfyniad: § Cytunodd y Bwrdd ar y cwmpas arfaethedig, y
pynciau allweddol, yr ymgysylltu a’r amserlen ar gyfer yr adolygiad thematig
hwn. §
Cytunodd
y Bwrdd i ymgynghori â'r Aelodau a'r Prif Weithredwr ar y Cylch Gorchwyl drafft. Cam i’w gymryd: §
Ysgrifenyddiaeth
i gynnwys y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymgynghori fel rhan o'r papur diweddaru. |
|
|
Diweddariad Comisiwn y Senedd ynghylch yr Adolygiad o'r Polisi Urddas a Pharch (gan gynnwys Polisïau Gorfodol) (14.15 - 14.45) Papur 9 – Urddas
a Pharch Cofnodion: § Bu'r Bwrdd yn trafod canfyddiadau adolygiad y
Comisiwn o Bolisi Urddas a Pharch y Senedd. Nododd aelodau’r Bwrdd y cynnydd sylweddol
a wnaed i hyrwyddo urddas a pharch yn y Senedd ers cytuno ar y polisi yn 2018. § Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth gychwynnol i, a
ddylai'r gweithdrefnau cwyno a disgyblu y mae wedi'u rhoi ar waith ar gyfer
swyddfeydd yr Aelodau gael eu hadolygu yng ngoleuni canfyddiadau adolygiad y
Comisiwn. §
Nododd
y Bwrdd fod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnal ymchwiliad i urddas a pharch
a bod ei ymgynghoriad ar agor tan 8 Ionawr 2024. Penderfyniad: §
O ystyried
ymgynghoriad parhaus y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, cytunodd y Bwrdd i
ysgrifennu at y Pwyllgor i ofyn am ragor o ymgysylltu cyn penderfynu ar y camau
nesaf ynghylch unrhyw adolygiad o'r gweithdrefnau cwyno a disgyblu ar gyfer
Staff Cymorth yr Aelodau. |
|
|
Papur Diweddariad (14.45 - 14.50) Papur 10 – Papur
Diweddariad Cofnodion: § Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar amrywiol
faterion sy'n berthnasol i'w waith a hefyd ei flaenraglen waith. §
Nododd
y Bwrdd yr ohebiaeth a ddaeth i law ers y cyfarfod diwethaf. §
Nododd
y Bwrdd mai'r bwriad oedd trefnu cyfarfod pellach rhwng y Cadeirydd a'r Llywydd
cyn y Nadolig. §
Cafodd
y Bwrdd ddiweddariad ar yr ymweliadau â swyddfeydd etholaethol a gynhaliwyd
gydag Aelodau a’u Staff Cymorth ers y cyfarfod diwethaf. Cadarnhawyd hefyd pa
ymweliadau sydd i'w cynnal o hyd. §
Cadarnhaodd
aelodau’r Bwrdd pwy fydd yn bresennol ar gyfer y cyfarfod nesaf sydd i’w gynnal
ddydd Iau 22 Chwefror 2024. |
PDF 292 KB