Agenda item
Diweddariad ar y Cyflog Byw Gwirioneddol (10.30 - 10.45)
Papur 5 – Goblygiadau’r
Cyflog Byw Gwirioneddol i lefelau cyflog Aelodau o’r Senedd
Cofnodion:
§ Nododd y Bwrdd y cynnydd yn y gyfradd Cyflog
Byw Gwirioneddol i £12 yr awr, fel y'i cyfrifwyd gan y Resolution Foundation ac a gyhoeddir yn flynyddol gan y Sefydliad Cyflog Byw.
§ Trafododd y Bwrdd yr opsiynau sydd ar gael
iddo i fynd i'r afael â'r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol.
Penderfyniad:
§ Cytunodd y Bwrdd i fynd i'r afael â'r mater
hwn fel a ganlyn:
-
Darparu
ar gyfer codiad dros dro i Bwynt Cyflog 1 Band 3 i lefel y Cyflog Byw
Gwirioneddol o 1 Rhagfyr 2023 hyd 31 Mawrth 2024. Mae hyn yn codi Pwynt Cyflog
1 Band 3 i £23,088. Bydd y newid hwn yn cael ei adlewyrchu yn nhaliadau cyflog
mis Rhagfyr ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt.
-
Darparu
ar gyfer taliad unwaith ac am byth i Staff Cymorth a dderbyniodd gyflog Pwynt
Cyflog 1 Band 3 ym mis Tachwedd 2023, wedi’i gyfrifo’n unigol ar gyfer pob
aelod o staff, sy’n hafal â’r gwahaniaeth rhwng y cyflog a dderbyniwyd ar gyfer
Tachwedd 2023 a’r cyflog a fyddai wedi’i dderbyn pe bai’r Cyflog Byw
Gwirioneddol wedi’i gymhwyso o 1 Tachwedd 2023. Bydd hyn yn cael ei gynnwys yn
nhaliadau cyflog mis Rhagfyr. Effaith hyn yw y bydd staff yn derbyn taliadau
fel pe baent yn cael eu talu ar lefel y Cyflog Byw Gwirioneddol o 1 Tachwedd.
§ Nododd y Bwrdd mai trefniant dros dro fyddai
hwn tan 1 Ebrill 2024, pan fydd Pwynt Cyflog 1 Band 3 yn symud i lefelau cyflog
newydd arfaethedig 2024-25 (yn amodol ar yr ymgynghoriad ynghylch yr Adolygiad
Blynyddol a’r penderfyniad ar gyfer 2024-25).
§ Cytunodd y Bwrdd y byddai unrhyw gostau
ychwanegol sy’n ymwneud â’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn 2023-24 cael eu talu
drwy gronfeydd canolog, yn hytrach na thrwy gyllidebau staffio presennol yr
Aelodau.
§ Yn unol ag adran 14(3) o Fesur 2010, cytunodd
y Bwrdd bod amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn
rhesymol i'r cyfyngiadau a osodir gan adran 14(2) o Fesur 2010 beidio â bod yn
gymwys. Trafododd y Bwrdd yr amgylchiadau economaidd presennol ac yn benodol
bod y DU wedi profi cyfnod o chwyddiant eithriadol o gyflym, sy’n parhau i gael
effaith sylweddol ar gostau byw. Mae Nodiadau Esboniadol Mesur 2010 yn benodol yn nodi bod
cyfnod o chwyddiant eithriadol o gyflym yn enghraifft o amgylchiadau
eithriadol.
§ Nododd y Bwrdd mai dyma’r tro cyntaf i’r
Cyflog Byw Gwirioneddol fynd y tu hwnt i gyflogau rhai staff cymorth, sy’n golygu
bod y rhai ar Fand 3 Pwynt Cyflog 1 yn derbyn cyflog islaw’r Cyflog Byw
Gwirioneddol. Barn y Bwrdd oedd bod y rhain yn amgylchiadau eithriadol a bydd
paragraff yn cael ei fewnosod gan ganiatáu unrhyw gynnydd blynyddol yn y Cyflog
Byw Gwirioneddol yn y dyfodol uwchlaw'r pwynt cyflog isaf i addasu unrhyw gyflog sy'n is na hyn yn
awtomatig yn unol â'r Cyflog Byw Gwirioneddol.
§ Yn dilyn ymgysylltiad diweddar â staff a
chynrychiolwyr undebau ar faterion cysylltiedig a'r angen i sicrhau bod
taliadau yn cael eu gwneud yn brydlon mewn ymateb i'r amgylchiadau ariannol
presennol, cytunodd y Bwrdd na fyddai'n briodol ymgynghori â'r rhai yr
effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad.
§ Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori â'r Prif
Weithredwr a'r Swyddog Cyfrifyddu fel sy'n ofynnol gan Fesur Cynulliad
Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.
Cam i’w gymryd:
§ Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at y Prif
Weithredwr a'r Swyddog Cyfrifyddu i ymgynghori ar y penderfyniadau a
grybwyllwyd uchod.
§ Yn amodol ar ymateb y Swyddog Cyfrifyddu,
bydd y Bwrdd yn ysgrifennu at y Llywydd i roi gwybod i’r Comisiwn am
benderfyniad y Bwrdd i wneud Penderfyniad Eithriadol ac i’w gyfleu i’r Aelodau
a Staff Cymorth cyn canol mis Rhagfyr.
§ Bydd Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd yn cysylltu â
Gwasanaeth Cyfreithiol y Comisiwn i gadarnhau'r geiriad y Penderfyniad
Eithriadol a'r geiriad sydd i'w gynnwys fel rhan o'r ymgynghoriad ar yr
Adolygiad Blynyddol ar gyfer y blynyddoedd i ddod – cyhoeddwyd y Penderfyniad Eithriadol a’r
Datganiad ar 12 Rhagfyr 2023. Anfonwyd llythyrau at y Prif Weithredwr a'r
Llywydd hefyd.