Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Hurford 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd (13.30 - 13.40)

Papur 1 – Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref

Cofnodion:

§ Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ymunodd Mike Redhouse yn rhithwir. 

 

§ Cyflwynodd y Cadeirydd Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Comisiwn y Senedd, i'r Bwrdd. 

 

§ Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 12 Hydref. 

 

Cam i’w gymryd: 

 

§ Bydd Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd yn cyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref – mae'r cofnodion wedi'u cyhoeddi. 

 

2.

Diweddariad Economaidd (13.40 - 14.00)

Papur 2 – Rhagolygon Economaidd

Cofnodion:

  • Cafodd y Bwrdd ddiweddariad gan Martin Jennings (Pennaeth Uned Craffu Ariannol y Tîm Ymchwil) ar yr hinsawdd economaidd bresennol a’r rhagolygon.  

 

  • Trafododd y Bwrdd oblygiadau posibl y cyfraddau llog uchel parhaus a chwyddiant bwyd cyn eu trafodaethau ynghylch cymorth ariannol i Staff Cymorth, gan gynnwys addasiadau cyflog ar gyfer 2024-25. 

 

  • Hefyd, trafododd y Bwrdd y goblygiadau posibl i'r Penderfyniad presennol.  

Penderfyniad: 

 

  • Cytunodd y Bwrdd i rannu'r Diweddariad Economaidd a baratowyd gan Wasanaeth Ymchwil Comisiwn y Senedd gyda’r rhai a oedd yn bresennol yng nghyfarfodydd y Grŵp Cynrychiolwyr – rhannwyd y diweddariad gyda’r Grwpiau Cynrychiolwyr. 

 

3.

Diweddariad ar Adolygiad Thematig y PPSA (14.00 - 14.15)

Papur 3 – Diweddariad ar yr Adolygiad Thematig o’r Lwfans i Bleidiau Gwleidyddol

Cofnodion:

  • Rhoddodd Jane Roberts, arweinydd y Bwrdd adolygu thematig, ddiweddariad ar yr adolygiad thematig o’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol sy'n cael ei gynnal fel rhan o Raglen Waith Strategol y Bwrdd.  

 

Penderfyniad: 

 

  • Trafododd y Bwrdd y dull arfaethedig ar gyfer camau nesaf yr adolygiad thematig hwn a chytunodd arno. 

 

Cam i’w gymryd:  

 

  • Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at y Prif Weithredwr a’r Swyddog Cyfrifyddu i sôn am adborth a gafwyd gan Aelodau ynghylch teithio a datblygu polisi - bydd llythyr yn cael ei anfon at y Prif Weithredwr yn fuan. 

 

 

4.

Diweddariad ar yr Adolygiad Staffio (14.15 - 14.30)

Papur 4 – Diweddariad ar yr Adolygiad o Gyflogau a Graddfeydd Staff

Cofnodion:

  • Rhoddwyd crynodeb byr i'r Bwrdd o'r gwaith a wnaed fel rhan o'r Adolygiad Staffio hyd yma. 

 

  • Cadarnhawyd y bydd cyfweliadau a grwpiau ffocws yn cael eu cynnal gyda staff dros y misoedd nesaf fel rhan o gam nesaf yr adolygiad, ac yna arolwg yn gynnar yn 2024. 

 

  • Dywedodd Michael Redhouse, arweinydd Bwrdd yr adolygiad thematig, fod yr Adolygiad Staffio yn ymwneud â newidiadau y gallai fod eu hangen ar gyfer y Seithfed Senedd. 

 

  • Bydd y Bwrdd yn cael diweddariad pellach y flwyddyn nesaf unwaith y bydd y cam nesaf o'r gwaith wedi'i gwblhau – mae arolwg Beamans wedi'i ddosbarthu i'r holl Aelodau a Staff Cymorth. Mae grwpiau ffocws hefyd wedi'u cynnal. Bydd y Bwrdd yn ystyried yr adroddiad drafft gan Beamans yng nghyfarfod mis Mawrth.  



5.

Diweddariad ar y Cyflog Byw Gwirioneddol (10.30 - 10.45)

Papur 5 – Goblygiadau’r Cyflog Byw Gwirioneddol i lefelau cyflog Aelodau o’r Senedd

Cofnodion:

§ Nododd y Bwrdd y cynnydd yn y gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol i £12 yr awr, fel y'i cyfrifwyd gan y Resolution Foundation ac a gyhoeddir yn flynyddol gan y Sefydliad Cyflog Byw. 

 

§ Trafododd y Bwrdd yr opsiynau sydd ar gael iddo i fynd i'r afael â'r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol.  

 

Penderfyniad: 

 

§ Cytunodd y Bwrdd i fynd i'r afael â'r mater hwn fel a ganlyn:  

-       Darparu ar gyfer codiad dros dro i Bwynt Cyflog 1 Band 3 i lefel y Cyflog Byw Gwirioneddol o 1 Rhagfyr 2023 hyd 31 Mawrth 2024. Mae hyn yn codi Pwynt Cyflog 1 Band 3 i £23,088. Bydd y newid hwn yn cael ei adlewyrchu yn nhaliadau cyflog mis Rhagfyr ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt.  

-       Darparu ar gyfer taliad unwaith ac am byth i Staff Cymorth a dderbyniodd gyflog Pwynt Cyflog 1 Band 3 ym mis Tachwedd 2023, wedi’i gyfrifo’n unigol ar gyfer pob aelod o staff, sy’n hafal â’r gwahaniaeth rhwng y cyflog a dderbyniwyd ar gyfer Tachwedd 2023 a’r cyflog a fyddai wedi’i dderbyn pe bai’r Cyflog Byw Gwirioneddol wedi’i gymhwyso o 1 Tachwedd 2023. Bydd hyn yn cael ei gynnwys yn nhaliadau cyflog mis Rhagfyr. Effaith hyn yw y bydd staff yn derbyn taliadau fel pe baent yn cael eu talu ar lefel y Cyflog Byw Gwirioneddol o 1 Tachwedd.  

 

§ Nododd y Bwrdd mai trefniant dros dro fyddai hwn tan 1 Ebrill 2024, pan fydd Pwynt Cyflog 1 Band 3 yn symud i lefelau cyflog newydd arfaethedig 2024-25 (yn amodol ar yr ymgynghoriad ynghylch yr Adolygiad Blynyddol a’r penderfyniad ar gyfer 2024-25).  

 

§ Cytunodd y Bwrdd y byddai unrhyw gostau ychwanegol sy’n ymwneud â’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn 2023-24 cael eu talu drwy gronfeydd canolog, yn hytrach na thrwy gyllidebau staffio presennol yr Aelodau. 

 

§ Yn unol ag adran 14(3) o Fesur 2010, cytunodd y Bwrdd bod amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiadau a osodir gan adran 14(2) o Fesur 2010 beidio â bod yn gymwys. Trafododd y Bwrdd yr amgylchiadau economaidd presennol ac yn benodol bod y DU wedi profi cyfnod o chwyddiant eithriadol o gyflym, sy’n parhau i gael effaith sylweddol ar gostau byw. Mae Nodiadau Esboniadol Mesur 2010 yn benodol yn nodi bod cyfnod o chwyddiant eithriadol o gyflym yn enghraifft o amgylchiadau eithriadol.  

 

§ Nododd y Bwrdd mai dyma’r tro cyntaf i’r Cyflog Byw Gwirioneddol fynd y tu hwnt i gyflogau rhai staff cymorth, sy’n golygu bod y rhai ar Fand 3 Pwynt Cyflog 1 yn derbyn cyflog islaw’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Barn y Bwrdd oedd bod y rhain yn amgylchiadau eithriadol a bydd paragraff yn cael ei fewnosod gan ganiatáu unrhyw gynnydd blynyddol yn y Cyflog Byw Gwirioneddol yn y dyfodol uwchlaw'r pwynt cyflog isaf i addasu unrhyw gyflog sy'n is na hyn yn awtomatig yn unol â'r Cyflog Byw Gwirioneddol. 

 

§ Yn dilyn ymgysylltiad diweddar â staff a chynrychiolwyr undebau ar faterion cysylltiedig a'r angen i sicrhau bod taliadau yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Diweddariad Costau Byw (10.45 - 11.15)

Papur 6 – Taliad Costau Byw 2023 i Staff Cymorth

Cofnodion:

  • Trafododd y Bwrdd opsiynau er mwyn rhoi cymorth ariannol i staff yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus. 

 

Penderfyniad: 

 

  • Cytunodd y Bwrdd i gynyddu lwfans staffio’r Aelodau a diwygio'r Penderfyniad i ddarparu ar gyfer y taliad o £600 ym mis Ionawr 2024, pro rata yn unol ag oriau gwaith contract, i helpu i dalu costau byw uwch. Gwneir y taliad yng nghyflogau mis Ionawr (neu gellir ei wasgaru ar draws cyflog mis Ionawr, mis Chwefror a/neu fid Mawrth os gofynnir am hynny), ac ni chaiff ei gyfuno â chyflogau. 

 

  • Cytunodd y Bwrdd y byddai unrhyw gostau ychwanegol sy’n ymwneud â Chostau Byw yn 2023-24 yn cael eu talu drwy gronfeydd canolog, yn hytrach na thrwy gyllidebau staffio presennol yr Aelodau. 

 

  • Yn unol ag adran 14(3) o Fesur 2010, cytunodd y Bwrdd fod amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiadau a osodir gan adran 14(2) o Fesur 2010 beidio â bod yn gymwys. Trafododd y Bwrdd yr amgylchiadau economaidd presennol ac yn benodol bod y DU wedi profi cyfnod o chwyddiant eithriadol o gyflym, sy’n parhau i gael effaith sylweddol ar gostau byw. Mae Nodiadau Esboniadol Mesur 2010 yn benodol yn nodi bod cyfnod o chwyddiant eithriadol o gyflym yn enghraifft o amgylchiadau eithriadol.  

 

  • Cytunodd y Bwrdd fod yr amgylchiadau eithriadol hyn yn ei gwneud yn gyfiawn ac yn rhesymol iddo benderfynu bod taliad ychwanegol yn cael ei wneud i'r holl staff cymorth. Nododd y Bwrdd hefyd yr ymdrinnir â hyn a'r penderfyniad a wnaed ynghylch y Cyflog Byw Gwirioneddol drwy'r un Penderfyniad Eithriadol. 

 

  • Yn dilyn ymgysylltiad diweddar â staff a chynrychiolwyr undebau ar faterion cysylltiedig a'r angen i sicrhau bod taliadau yn cael eu gwneud yn brydlon mewn ymateb i'r amgylchiadau ariannol presennol, cytunodd y Bwrdd na fyddai'n briodol ymgynghori â'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad.  

 

  • Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori â’r Prif Weithredwr a’r Swyddog Cyfrifyddu fel sy’n ofynnol gan Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010. 

 

Cam i’w gymryd:  

 

  • Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at y Prif Weithredwr a'r Swyddog Cyfrifyddu i ymgynghori ar y penderfyniadau a grybwyllwyd uchod. 

 

  • Yn amodol ar ymateb y Swyddog Cyfrifyddu, bydd y Bwrdd yn ysgrifennu at y Llywydd i roi gwybod i’r Comisiwn am benderfyniad y Bwrdd i wneud Penderfyniad Eithriadol ac i’w gyfleu i’r Aelodau a Staff Cymorth cyn canol mis Rhagfyr.  

 

  • Bydd Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd yn cysylltu â Gwasanaeth Cyfreithiol y Comisiwn i gadarnhau'r geiriad Penderfyniad eithriadol – cyhoeddwyd y Penderfyniad Eithriadol a’r Datganiad ar 12 Rhagfyr 2023 Anfonwyd llythyrau at y Prif Weithredwr a'r Llywydd hefyd.  

 

7.

Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2024/25 (11.15 - 12.30)

Papur 7 – Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad ar Dâl a Lwfansau’r Aelodau ar gyfer 2024-25

Cofnodion:

§ Trafododd y Bwrdd y cynigion drafft ar yr Adolygiad Blynyddol o Benderfyniad 2024/25.  

 

§ Trafododd y Bwrdd y cynnydd arfaethedig i saith o'r lwfansau yn y Penderfyniad ynghylch y costau a yr eir iddynt gan Aelodau wrth gyflawni eu dyletswyddau.  

 

§ Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar y cynnig i gynyddu'r lwfansau hynny yn unol â chyfradd y mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Ionawr. Cytunodd hefyd ar gynnig i gadw lefel y lwfans atgyweirio hanfodol ar ei lefel bresennol. 

 

§ Nododd y Bwrdd y bydd cyflogau'r Aelodau yn cynyddu 3 y cant yn unol â chymhwysiad ASHE Cymru, yn amodol ar y mecanwaith cap a choler ym mharagraff 3.2.2. yn y Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau ar gyfer 2023/24. 

 

§ Trafododd y Bwrdd gynnig i ddatgymhwyso'r cap ar gyflogau staff ym mharagraff 7.2.2. yn y Penderfyniad ac i gynyddu cyflogau yn ôl ffigur ASHE Cymru o 5.7 y cant. 

 

§ Nododd y Bwrdd y bydd y taliad costau byw a ddyfarnwyd yn y flwyddyn ariannol hon o £600 yn cael ei gyfuno i bob pwynt tâl o 1 Ebrill 2024. 

 

§ Trafododd y Bwrdd nifer o gynigion ar gyfer newidiadau i'r Penderfyniad a gododd yn sgil tystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr adolygiad thematig symleiddio, sy’n ymateb uniongyrchol i adborth gan Aelodau a staff ac awgrymiadau gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd yn ei gohebiaeth. 

 

Penderfyniad: 

§ Cytunodd y Bwrdd i gynnwys y cynigion hynny yn yr Adolygiad Blynyddol. 

 

§ Cytunodd y Bwrdd y bydd Adolygiad Blynyddol Penderfyniad 2024/25 yn cael ei gyhoeddi, ar gyfer ymgynghori yn ei gylch, ar 15 Rhagfyr.  

 

Cam i’w gymryd: 

 

§ Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn cynhyrchu'r ddogfen ymgynghori, a'r ohebiaeth gysylltiedig. 

 

§ Bydd Aelodau a'u staff yn cael eu hysbysu am y cyhoeddiad a’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad ar 26 Ionawr – daeth yr ymgynghoriad i ben ar 26 Ionawr a bydd y Bwrdd yn trafod yr ymatebion yng nghyfarfod mis Chwefror.  

 

 

8.

Diweddariad ar Daliadau Aelodau (13.30 - 14.15)

Papur 8 – Adolygiad o Daliadau a Chymorth Personol i’r Aelodau

Cofnodion:

§ Darparodd y Cadeirydd, arweinydd y Bwrdd adolygu thematig, y wybodaeth gefndirol am yr adolygiad thematig o Daliadau a Chymorth Personol i’r Aelodau ac ystyriodd y Bwrdd ei ddull, cwmpas a chylch gorchwyl drafft ar gyfer yr adolygiad. 

 

Penderfyniad: 

§ Cytunodd y Bwrdd ar y cwmpas arfaethedig, y pynciau allweddol, yr ymgysylltu a’r amserlen ar gyfer yr adolygiad thematig hwn. 

 

§ Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori â'r Aelodau a'r Prif Weithredwr ar y Cylch Gorchwyl drafft. 

 

Cam i’w gymryd: 

 

§ Ysgrifenyddiaeth i gynnwys y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymgynghori fel rhan o'r papur diweddaru – cafodd y Cylch Gorchwyl ei gynnwys ar gyfer ymgynghori gyda llythyr diweddariad mis Tachwedd a gyhoeddwyd ar 12 Rhagfyr 2023.  

 

9.

Diweddariad Comisiwn y Senedd ynghylch yr Adolygiad o'r Polisi Urddas a Pharch (gan gynnwys Polisïau Gorfodol) (14.15 - 14.45)

Papur 9 – Urddas a Pharch

Cofnodion:

§ Bu'r Bwrdd yn trafod canfyddiadau adolygiad y Comisiwn o Bolisi Urddas a Pharch y Senedd. Nododd aelodau’r Bwrdd y cynnydd sylweddol a wnaed i hyrwyddo urddas a pharch yn y Senedd ers cytuno ar y polisi yn 2018.  

 

§ Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth gychwynnol i, a ddylai'r gweithdrefnau cwyno a disgyblu y mae wedi'u rhoi ar waith ar gyfer swyddfeydd yr Aelodau gael eu hadolygu yng ngoleuni canfyddiadau adolygiad y Comisiwn.  

 

§ Nododd y Bwrdd fod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnal ymchwiliad i urddas a pharch a bod ei ymgynghoriad ar agor tan 8 Ionawr 2024. 

 

Penderfyniad: 

 

§ O ystyried ymgynghoriad parhaus y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at y Pwyllgor i ofyn am ragor o ymgysylltu cyn penderfynu ar y camau nesaf ynghylch unrhyw adolygiad o'r gweithdrefnau cwyno a disgyblu ar gyfer Staff Cymorth yr Aelodau – bydd diweddariad ar urddas a pharch yn cael ei roi yng nghyfarfod mis Chwefror fel rhan o'r Papur Diweddaru. Mae cyfarfod hefyd wedi'i drefnu gyda Chadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar gyfer 22 Chwefror. 

 

10.

Papur Diweddariad (14.45 - 14.50)

Papur 10 – Papur Diweddariad

Cofnodion:

§ Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar amrywiol faterion sy'n berthnasol i'w waith a hefyd ei flaenraglen waith. 

 

§ Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth a ddaeth i law ers y cyfarfod diwethaf. 

 

§ Nododd y Bwrdd mai'r bwriad oedd trefnu cyfarfod pellach rhwng y Cadeirydd a'r Llywydd cyn y Nadolig - mae cyfarfod pellach wedi'i drefnu ar gyfer 21 Chwefror. 

 

§ Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar yr ymweliadau â swyddfeydd etholaethol a gynhaliwyd gydag Aelodau a’u Staff Cymorth ers y cyfarfod diwethaf. Cadarnhawyd hefyd pa ymweliadau sydd i'w cynnal o hyd. 

 

§ Cadarnhaodd aelodau’r Bwrdd pwy fydd yn bresennol ar gyfer y cyfarfod nesaf sydd i’w gynnal ddydd Iau 22 Chwefror 2024.