Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.15) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr Papur 2 - Llythyr gan y Prif Weithredwr a’r Clerc yn
ymwneud â nifer o faterion i'w hystyried Cofnodion: Papur 1 - Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr Papur 2 - Llythyr gan y Prif
Weithredwr a’r Clerc yn ymwneud â nifer o faterion i'w hystyried 1.1
Croesawodd y Cadeirydd
bawb i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau
gan Jane Roberts. 1.3
Rhoddodd y Cadeirydd
adborth i'r Bwrdd yn dilyn ei chyfarfodydd diweddar gyda'r Prif Weithredwr a'r
Clerc. Nododd y Bwrdd lythyr gan y Prif Weithredwr a’r Clerc a oedd yn ymdrin â
nifer o faterion. 1.4
Nododd y bwrdd y papur
ar rolau a chylch gwaith priodol sy’n rhoi trosolwg i'r Aelodau o rolau
Comisiwn y Senedd, y Prif Swyddog Cyfrifyddu, y Bwrdd a’r Comisiynydd Safonau
wrth lywodraethu mynediad Aelodau at wasanaethau ac adnoddau. Cytunwyd ei fod
yn darparu cefndir defnyddiol. 1.5
Mae'r Bwrdd yn awyddus
i ddeall ymhellach y rhyngweithio ac unrhyw orgyffwrdd rhwng y Penderfyniad a'r
gwasanaethau a ddarperir i Aelodau gan y Comisiwn ac unrhyw fylchau yn y
ddarpariaeth. 1.6
Nododd y Bwrdd
ohebiaeth ychwanegol a gafwyd yn ystod y cyfarfod gan y Prif Weithredwr a’r
Clerc. Roedd yr ohebiaeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am yr
ymgynghoriad ar y Rheolau ar ddefnyddio Adnoddau’r Senedd a hefyd gwybodaeth am
gymorth i’r Bwrdd er mwyn cefnogi ei raglen waith strategol. 1.7
Cytunodd y Bwrdd i
ystyried cynnwys y llythyr dros e-bost (allan o'r Bwrdd), a bwydo unrhyw
sylwadau yn ôl i'r ysgrifenyddiaeth, i'w hymgorffori yn yr ymateb i'r Prif
Weithredwr a’r Clerc. 1.8
Myfyriodd y Bwrdd ar y
sesiwn galw heibio, a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol gydag Aelodau yn y Senedd,
a chytunwyd ei bod yn ddefnyddiol ac yn llawn gwybodaeth. Cytunodd y Bwrdd i
dreialu apwyntiadau ag Aelodau yn y sesiwn galw heibio nesaf ac i Aelodau'r
Bwrdd gwrdd ag Aelodau mewn grwpiau o ddau neu dri. 1.9
Cytunodd y Bwrdd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr a gofynnodd am gynnwys papur
materion sy’n codi a phapur camau gweithredu y cytunwyd arnynt ym mhob pecyn
cyfarfod yn y dyfodol. Cam gweithredu: Yr Ysgrifenyddiaeth i
baratoi'r llythyr wedi’i ddiweddaru i'r Aelodau yn dilyn y cyfarfod, yr ymateb
drafft i'r Prif Weithredwr a'r Clerc a'r cofnodion drafft a materion sy’n codi. |
|
Eitem i'w thrafod ac i benderfynu arni: Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad - ar ôl ymgynghori (9.15 - 12.15) Papur 3 - Trosolwg Papur 4 – Penodau 3, 7 ac 8 -
Taliadau Aelodau a Staff Cymorth a Chymorth ar gyfer Lwfans Pleidiau
Gwleidyddol Papur 5 – Pennod 4 - Gwariant ar
Lety Preswyl Papur 6 – Pennod 6 – Y Gronfa Costau
Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr a'r Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu Papur 7 – Materion amrywiol Cofnodion: Papur 3 - trosolwg 2.1
Ystyriodd y Bwrdd yr holl
ymatebion a ddaeth i law a chroesawodd y lefel uchel o ymgysylltiad gan
Aelodau, Staff Cymorth a grwpiau ar ei ymgynghoriad. 2.2
Fel rhan o’r ystyriaeth,
roedd y Bwrdd yn cydnabod ein bod yn byw mewn cyfnod eithriadol a bod nifer o'r
cynigion ymgynghori, y cytunodd y Bwrdd arnynt ym mis Tachwedd 2021, ar ei hôl
hi o ran y sefyllfa a wynebir ar hyn o bryd. 2.3
Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi
adroddiad ymgynghori a thystiolaeth ategol ochr yn ochr â'r Penderfyniad
newydd, y mae’n rhaid ei osod erbyn 1 Ebrill 2022. Cam gweithredu: Yr Ysgrifenyddiaeth i wneud y canlynol: ·
Paratoi’r adroddiad a’r Penderfyniad diwygiedig a gwneud
trefniadau ar gyfer ei osod a’i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2022. ·
ymatebion drafft i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad a
chyhoeddi’r ymatebion hynny cyn gynted â phosibl, ac erbyn toriad y Pasg fan
bellaf. Papur 4 – Penodau 3, 7 ac 8 – Taliadau Aelodau a Staff
Cymorth a Chefnogaeth i Bleidiau Gwleidyddol 2.4
Ystyriodd a chytunodd y Bwrdd y dylai cyflogau staff gynyddu 3 y
cant (cyfunol), ar gyfer aelodau staff yr Aelodau a staff a gyflogir gan y
Grwpiau Plaid, ac nid cynyddu yn unol ag ASHE Cymru a oedd fod yn 0.4 y cant
eleni. 2.5
Wrth ddod i'r penderfyniad hwn, cydnabu'r Bwrdd yr
amgylchiadau economaidd eithriadol, ac yn benodol sut maent yn effeithio ar
staff cymorth yr Aelodau. O ystyried y
cyd-destun economaidd presennol ac yn y dyfodol, barnwyd bod cynnydd o 3 y cant
yn briodol. Roedd y Bwrdd hefyd yn cydnabod y gwerth a roddir ar staff cymorth
gan yr Aelodau sy'n eu cyflogi. Roedd y
penderfyniad hwn yn ymwneud â Chynnig 7. 2.6
Cytunodd y Bwrdd, mewn perthynas â chyflogau Aelodau, na fydd
unrhyw newid i'r Penderfyniad. Bydd cyflogau Aelodau yn cynyddu yn ôl ASHE Cymru,
sef 0.4 y cant ar gyfer eleni. 2.7
Cytunodd y Bwrdd i drafod papur yn y cyfarfod nesaf mewn perthynas
â'r Cynllun Pensiwn Staff Cymorth er mwyn ei gymharu â chynlluniau eraill, gan
gynnwys darpariaeth cynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil. 2.8
Cytunodd y Bwrdd i wneud darpariaeth ar gyfer amser i ffwrdd â
thâl ac yn ddi-dâl ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus. Y penderfyniad a gymerwyd
ar gyfer Milwyr Wrth Gefn oedd fforddio hyd at 15 diwrnod y flwyddyn o wyliau
arbennig â thâl ar gyfer hyfforddiant gorfodol.
Cytunodd y Bwrdd i beidio â cheisio adennill yr elfen taliad dwbl mewn
perthynas ag unrhyw aelod o staff a gafodd amser i ffwrdd â thâl ar gyfer
hyfforddiant milwyr wrth gefn lle maent hefyd yn derbyn tâl gan y Weinyddiaeth
Amddiffyn. Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â Chynnig 9. 2.9
Cytunodd y Bwrdd i gynyddu cyfran y Lwfans Cymorth i Bleidiau
Gwleidyddol yn 2022-23 a oedd yn ymwneud â gwariant staffio 3 y cant yn hytrach
na 0.4 y cant. Roedd y penderfyniad hwn
yn ymwneud â Chynnig 10. Papur ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Eitem i'w thrafod: Papur diweddaru (13.00 - 13.30) Papur 8 – Papur diweddaru Cofnodion: Papur 8 – papur diweddariad 3.1
Nododd y Bwrdd
ddiweddariadau ar y canlynol: - effaith
trefniadau COVID-19 ar fusnes y Senedd; - rhaglen
y Bwrdd ar gyfer ymgysylltu ag Aelodau; - gwaith
y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd; - Cynllun
Pensiwn yr Aelodau; a - chyllid. 3.2
Cytunodd y Bwrdd i
drefnu ei gyfarfod ffurfiol nesaf ar gyfer dydd Iau 26 Mai. |
|
Eitem i'w thrafod: Rhaglen waith strategol y Bwrdd (13.30 - 15.00) Papur 9 - Blaenraglen waith Strategol y Bwrdd Atodiad - Nodi blaenoriaethau Atodiad - Blaenragen waith Cofnodion: Papur 9 – blaenraglen waith 4.1
Trafododd y Bwrdd ei
flaenraglen waith strategol ar gyfer gweddill ei gyfnod yn y swydd. Cytunodd y
byddai angen iddo ymgymryd â dwy ffrwd waith fesul cam a chynnal y gwaith hwn
ar y cyd. 4.2
Byd y ffrwd waith
gyntaf yn canolbwyntio ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd, a fydd yn
cynnwys yr holl fusnes arferol megis yr adolygiad blynyddol, adroddiadau
blynyddol a’r ymrwymiadau presennol. Mae’r ymrwymiadau hyn yn cynnwys, er
enghraifft, ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am asesiadau diogelwch ar gyfer
Aelodau yn nhymor yr hydref 2022 ac adolygu goblygiadau'r Cytundeb Cydweithredu. 4.3
Nododd y Bwrdd hefyd
ddau faes blaenoriaeth ychwanegol ar gyfer adolygiad thematig ar gyfer y
Chweched Senedd: ffyrdd newydd o weithio, a fydd yn cynnwys adolygiad o’r
Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr a chefnogaeth ar gyfer gweithio
gartref, ac adolygu'r lwfans staff cymorth, gan gynnwys natur y rôl a’r strwythurau
cyflog a graddio. 4.4
Cytunodd y Bwrdd i
ddechrau cwmpasu'r adolygiad ffyrdd newydd o weithio yn ei gyfarfod nesaf ym
mis Mai a'r lwfans staff cymorth yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf. 4.5
Roedd yr ail ffrwd
waith y cytunodd y Bwrdd arni yn ymwneud â pharatoi'r Penderfyniad ar gyfer y
Seithfed Senedd. Wrth iddo gael mwy o eglurder ynghylch y penderfyniadau ar
Ddiwygio’r Senedd, cytunodd y Bwrdd i bwyso a mesur y materion dan sylw a
phenderfynu ar raddfa’r newid sydd ei angen a’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer
cynnal adolygiad thematig. Cyn gwneud hynny, bydd y Bwrdd yn mynd ati i gynnal
gwaith ymchwil paratoadol ac yn dechrau sgyrsiau am yr egwyddorion lefel uchel
ar gyfer llunio'r Penderfyniad yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. 4.6
Cytunodd y Bwrdd hefyd
i archwilio rhai materion trawsbynciol penodol, symleiddio a hyblygrwydd, yn
ogystal â datgarboneiddio.
4.7
Cytunodd y Bwrdd i
barhau i geisio gweithio ar y cyd â Chomisiwn y Senedd er mwyn archwilio'r
berthynas rhwng sut y mae’r Aelodau’n defnyddio lwfansau'r Penderfyniad a'r
gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn i’r Aelodau. Cytunodd y Bwrdd hefyd i
gynnal adolygiad canol tymor o effeithiolrwydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a
bydd yn adolygu'r ffordd orau o ymgysylltu ag Aelodau a'u staff er mwyn deall
eu hanghenion. 4.8
Rhoddodd y Bwrdd
ystyriaeth gychwynnol i'r dull o ddarparu adnoddau ar gyfer ei raglen waith
strategol a chytunwyd y dylai'r Cadeirydd a'r Uwch-gynghorydd ystyried y mater
hwn ymhellach a briffio'r Prif Weithredwr a'r Clerc. |