Agenda item

Eitem i'w thrafod ac i benderfynu arni: Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad - ar ôl ymgynghori (9.15 - 12.15)

Papur 3 - Trosolwg

Papur 4 – Penodau 3, 7 ac 8 - Taliadau Aelodau a Staff Cymorth a Chymorth ar gyfer Lwfans Pleidiau Gwleidyddol

Papur 5 – Pennod 4 - Gwariant ar Lety Preswyl

Papur 6 – Pennod 6 – Y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr a'r Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu

Papur 7 – Materion amrywiol

Cofnodion:

Papur 3 - trosolwg

2.1         Ystyriodd y Bwrdd yr holl ymatebion a ddaeth i law a chroesawodd y lefel uchel o ymgysylltiad gan Aelodau, Staff Cymorth a grwpiau ar ei ymgynghoriad.

2.2         Fel rhan o’r ystyriaeth, roedd y Bwrdd yn cydnabod ein bod yn byw mewn cyfnod eithriadol a bod nifer o'r cynigion ymgynghori, y cytunodd y Bwrdd arnynt ym mis Tachwedd 2021, ar ei hôl hi o ran y sefyllfa a wynebir ar hyn o bryd.

2.3         Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi adroddiad ymgynghori a thystiolaeth ategol ochr yn ochr â'r Penderfyniad newydd, y mae’n rhaid ei osod erbyn 1 Ebrill 2022.

Cam gweithredu: Yr Ysgrifenyddiaeth i wneud y canlynol:

·                     Paratoi’r adroddiad a’r Penderfyniad diwygiedig a gwneud trefniadau ar gyfer ei osod a’i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2022.

·                     ymatebion drafft i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad a chyhoeddi’r ymatebion hynny cyn gynted â phosibl, ac erbyn toriad y Pasg fan bellaf.

Papur 4 – Penodau 3, 7 ac 8 – Taliadau Aelodau a Staff Cymorth a Chefnogaeth i Bleidiau Gwleidyddol

2.4         Ystyriodd a chytunodd y Bwrdd y dylai cyflogau staff gynyddu 3 y cant (cyfunol), ar gyfer aelodau staff yr Aelodau a staff a gyflogir gan y Grwpiau Plaid, ac nid cynyddu yn unol ag ASHE Cymru a oedd fod yn 0.4 y cant eleni.

2.5         Wrth ddod i'r penderfyniad hwn, cydnabu'r Bwrdd yr amgylchiadau economaidd eithriadol, ac yn benodol sut maent yn effeithio ar staff cymorth yr Aelodau.  O ystyried y cyd-destun economaidd presennol ac yn y dyfodol, barnwyd bod cynnydd o 3 y cant yn briodol. Roedd y Bwrdd hefyd yn cydnabod y gwerth a roddir ar staff cymorth gan yr Aelodau sy'n eu cyflogi.  Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â Chynnig 7.

2.6         Cytunodd y Bwrdd, mewn perthynas â chyflogau Aelodau, na fydd unrhyw newid i'r Penderfyniad. Bydd cyflogau Aelodau yn cynyddu yn ôl ASHE Cymru, sef 0.4 y cant ar gyfer eleni.

2.7         Cytunodd y Bwrdd i drafod papur yn y cyfarfod nesaf mewn perthynas â'r Cynllun Pensiwn Staff Cymorth er mwyn ei gymharu â chynlluniau eraill, gan gynnwys darpariaeth cynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

2.8         Cytunodd y Bwrdd i wneud darpariaeth ar gyfer amser i ffwrdd â thâl ac yn ddi-dâl ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus. Y penderfyniad a gymerwyd ar gyfer Milwyr Wrth Gefn oedd fforddio hyd at 15 diwrnod y flwyddyn o wyliau arbennig â thâl ar gyfer hyfforddiant gorfodol.  Cytunodd y Bwrdd i beidio â cheisio adennill yr elfen taliad dwbl mewn perthynas ag unrhyw aelod o staff a gafodd amser i ffwrdd â thâl ar gyfer hyfforddiant milwyr wrth gefn lle maent hefyd yn derbyn tâl gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â Chynnig 9.

2.9         Cytunodd y Bwrdd i gynyddu cyfran y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol yn 2022-23 a oedd yn ymwneud â gwariant staffio 3 y cant yn hytrach na 0.4 y cant.  Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â Chynnig 10.

Papur 5 – Pennod 4 - Gwariant ar Lety Preswyl

2.10       Ystyriodd a chytunodd y Bwrdd i godi'r lwfans drwy gymhwyso'r ffigur mynegai prisiau defnyddwyr diweddaraf o 5.5 y cant (Ionawr 2022) yn hytrach na'r hyn a gynigiwyd (3.1 y cant).

2.11       Cytunodd y Bwrdd y byddai'r codiad hwn yn berthnasol i gwantwm y lwfans blynyddol ar gyfer rhentu fflatiau ar gyfer aelodau ardal allanol ac ardal ganolog. Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â Chynigion 1 a 4.

2.12       Cytunodd y Bwrdd hefyd y bydd yr un codiad yn berthnasol i gwantwm y lwfans ar gyfer yr Aelodau hynny sydd â chyfrifoldebau gofalu.  Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â Chynnig 2.

2.13       Cytunodd y Bwrdd na fyddai unrhyw newid i'r lwfans ar gyfer atgyweiriadau hanfodol.  Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â Chynnig 3.

2.14       Cytunodd y Bwrdd y byddai'r codiad mynegai prisiau defnyddwyr o 5.5 y cant yn berthnasol i'r uchafswm nosweithiol y gellir ei hawlio ar gyfer llety gwesty.  Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â Chynnig 5.

Papur 6 – Pennod 6 - Y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr a'r Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu

2.15       Comisiynodd y Bwrdd waith ymchwil allanol gan Avison Young ar y farchnad rhentu swyddfeydd ledled Cymru. Clywodd y Bwrdd dystiolaeth gan Avison Young yn ystod y cyfarfod.

2.16       Roedd y Bwrdd o'r farn bod adroddiad Avison Young yn ddefnyddiol gan ei fod yn dangos yr amrywiaethau eang ledled Cymru a bydd yr adroddiad yn ddefnyddiol i'r Bwrdd lywio syniadau yn y dyfodol ar ei adolygiad o'r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr.

2.17       Cytunodd y Bwrdd y dylid cyhoeddi'r adroddiad er mwyn bod yn agored.

2.18       O ran cwantwm y lwfans, cytunodd y Bwrdd i gymhwyso'r cynnydd ar gyfradd mynegai prisiau defnyddwyr mis Medi o 3.1 y cant. 

2.19       Cytunodd y Bwrdd i gadw llygad barcud ar y prisiau ynni a cheisio tystiolaeth gan Aelodau, drwy’r tîm Cymorth Busnes i Aelodau, o'r cynnydd mewn costau ynni ar gyfer swyddfeydd Aelodau er mwyn gwneud addasiadau mwy cywir a phriodol i'r lwfans i adlewyrchu'r rhain.

2.20       Cytunodd y Bwrdd fod y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu o £2,500 yn cael ei chynnwys yn y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr. Gall Aelodau felly ddefnyddio’r lwfans uwch o ran Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr i hawlio ad-daliad am unrhyw eitemau sydd ar gael ar hyn o bryd drwy’r Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu yn unig, yn ogystal â gwariant arferol a ganiateir o dan y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr.

2.21       Cytunodd y Bwrdd y bydd y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr, gan gynnwys y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu a ymgorfforwyd, yn cynyddu yn unol â’r mynegai prisiau defnyddwyr ym mis Medi 2021 (3.1 y cant).  Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â Chynigion 6 ac 8.

2.22       Mae'r defnydd o'r Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu wedi'i gyhoeddi yn adroddiad blynyddol y Bwrdd. Fodd bynnag, yn unol â phenderfyniad y Bwrdd, nid oes angen cyhoeddi'r eitemau hyn ar wahân mwyach.

2.23       Cytunodd y Bwrdd hefyd na fydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer gwaith ymchwil gan y tîm Cymorth Busnes i Aelodau. Fel y nodir yn y Penderfyniad, bydd angen tri dyfynbris ar gyfer eitemau dros £750.

2.24       Bydd yr un rheolau’n cael eu cymhwyso i waith ymchwil a wneir gan Grwpiau’r Pleidiau o unrhyw falans sy'n weddill yn eu cyllidebau, fel y nodir yn y Penderfyniad ar hyn o bryd.

2.25       Bydd Aelodau hefyd yn gallu hawlio am waith ymchwil ar y cyd rhwng Aelodau neu Aelod a Grŵp.

2.26       Ar hyn o bryd, ni chaniateir hawliadau o’r Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu bedwar mis cyn etholiad. Cytunodd y Bwrdd nad oedd angen y rheol hon o ystyried mesurau diogelu eraill yn y Penderfyniad a Rheolau'r Swyddog Cyfrifyddu ar Ddefnyddio Adnoddau.  

Papur 7 – Materion Amrywiol

2.27       Roedd y Bwrdd o’r farn na ddylai mesurau diogelwch gwell a argymhellwyd gan wasanaeth Diogelwch y Senedd ar gyfer prif gartrefi’r Aelodau fod yn destun y broses treuliau eithriadol ond yn hytrach gael eu trin yn yr un modd â hawliadau am ofynion diogelwch ar gyfer swyddfeydd a llety preswyl.  Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â Chynnig 11.

2.28       Nododd y Bwrdd y diweddariad diogelwch a chroesawodd y cymorth ychwanegol a ddarperir i'r Aelodau, ond roedd yn bryderus ynghylch cyflymder cyflwyno'r cymorth fel yr adroddwyd iddynt gan nifer o Aelodau. 

2.29       Mewn perthynas â darpariaeth gofal plant ar ystâd y Senedd, nododd y Bwrdd fod y Prif Weithredwr wedi cytuno i adolygu opsiynau. Cytunodd y Bwrdd i drafod y mater ymhellach yn dilyn ystyriaeth y Comisiwn.

2.30       Galwodd dau ymatebydd am adolygiad o'r fframwaith rheoleiddio a nododd y Bwrdd nad oedd yn fater i'r Bwrdd ei gychwyn.  Fodd bynnag, byddai'n croesawu cyfranogiad mewn adolygiad o'r fath, pe bai'r Aelodau'n penderfynu bod angen hynny.  Cytunodd y Bwrdd hefyd i gynnal adolygiad canol tymor o effeithiolrwydd (i'w gynnal gan y tîm archwilio mewnol).

2.31       Penderfynodd y Bwrdd y dylid talu’r gost o gyflenwi band eang i gartrefi’r Aelodau o’r Penderfyniad (mae gan Aelodau hawl eisoes i hawlio costau band eang ar gyfer llety rhent yng Nghaerdydd). Gofynnodd y Bwrdd hefyd am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Comisiwn y Senedd â Chyllid a Thollau EM mewn perthynas â’r dreth ar daliadau band eang.