Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd (9.15 - 9.20)

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.2        Croesawodd y Cadeirydd David Hanson i'w gyfarfod cyntaf fel aelod o'r Bwrdd.

1.3        Croesawodd y Cadeirydd Llinos Madeley i'r cyfarfod fel Clerc newydd y Bwrdd a chofnodi diolch y Bwrdd i Lleu Williams, y Clerc blaenorol, am ei gyfraniad i waith y Bwrdd.

 

2.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch:Cynllun Pensiwn yr Aelodau (9.20 - 10.30)

·         Rhwymedi McCloud a Sargeant: Ymateb ir Ymgynghoriad

·         Enwebiad partner

·         Cymeradwyaeth Trysorlys EM o dan Ddeddf Pensiynaur Gwasanaeth Cyhoeddus 2013

·         Cylch Gorchwyl y Bwrdd Pensiynau

·         Prisiad y terfyn uchaf ar gostau

 

Cofnodion:

 

Papur 2 - Unioni McCloud a Sargeant: Ymatebion i’r ymgynghoriad

2.1 Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i'w ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i Gynllun Pensiwn Aelodau o'r Senedd (“y Cynllun”). Roedd y cynigion hyn yn ceisio mynd i’r afael â dyfarniad McCloud a Sargeant y Goruchaf Lys, a ddyfarnodd fod rhai o ddarpariaethau cynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus a oedd yn trin aelodau iau yn llai ffafriol ar sail oedran yn wahaniaethol.

2.2 Nododd y Bwrdd na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r cynigion a nodwyd yn yr ymgynghoriad.

2.3 Yn unol â’r cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad, cytunodd y Bwrdd i roi dewis ar unwaith i'r Aelodau yr effeithir arnynt o ran a ydynt am ddychwelyd i'r adran Cyflog Terfynol neu aros yn yr adran Enillion Gyrfa Cyfartalog wedi’u Hailbrisio ar gyfer cyfnod yr anghydraddoldeb.

2.4 Cytunodd y Bwrdd y dylid cyfarwyddo Eversheds Sutherland i ddrafftio newidiadau i'r Cynllun i adlewyrchu penderfyniad y Bwrdd.

2.5.5 Cytunodd y Bwrdd i ddarparu hyd at £150 fesul Aelod tuag at gost cyngor ariannol annibynnol ar y mater hwn.

2.6 Nododd y Bwrdd fod yn rhaid anfon y newidiadau i Reolau'r Cynllun at Drysorlys EM i'w cymeradwyo.

Papur 3 - Enwebu Partner

2.7 Trafododd y Bwrdd argymhelliad gan y Bwrdd Pensiynau i newid y diffiniad o “partner” yn y Cynllun. Cynigiwyd y newid hwn gan fod Rheolau'r Cynllun cyfredol yn cynnwys geiriad y mae'r Goruchaf Lys yn ei ddyfarnu i fod yn wahaniaethol i gyplau dibriod sy'n cyd-fyw.

2.8 Cytunodd y Bwrdd y dylid newid y diffiniad i ddileu'r gofyniad o ran ffurflen enwebu sydd wedi'i gynnwys yn y diffiniad o “partner”. Cytunodd y Bwrdd hefyd na fyddai'n briodol ymgynghori ar y newid hwn.

2.9 Cytunodd y Bwrdd y dylid cyfarwyddo Eversheds Sutherland i ddrafftio newidiadau i'r Cynllun i adlewyrchu penderfyniad y Bwrdd.

Papur 4 - Cymeradwyaeth Trysorlys EM o dan Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013

2.10 Trafododd y Bwrdd ei ymateb i fwriad Llywodraeth y DU i ddiwygio Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol i fynd i’r afael â’r gofyniad i Weinidogion Trysorlys EM gymeradwyo unrhyw newidiadau a wneir gan y Bwrdd i gynllun pensiwn yr Aelodau.

Papur 5 - Cylch Gorchwyl y Bwrdd Pensiynau

2.11 Nododd y Bwrdd fwriad y Bwrdd Pensiynau i addasu ei Gylch Gorchwyl i egluro’r broses ar gyfer cael enwebiadau ar gyfer Ymddiriedolwyr a Enwebwyd gan Aelodau. Nododd y Bwrdd mai diben y newid hwn oedd adlewyrchu'r arfer presennol a sicrhau cydymffurfiad parhaus â'r gofynion llywodraethu cyfredol.

Papur 6 - Prisiad y terfyn uchaf ar gostau
Atodiad A: Prisiad y terfyn uchaf ar gostau ar 1 Ebrill 2020: Cyngor ar ragdybiaethau demograffig: Adran Actiwari’r Llywodraeth

2.12 Croesawodd y Bwrdd Sandra Bell o Adran Actiwari Llywodraeth y DU, a oedd ar gael i ateb unrhyw gwestiwn yn ymwneud â'r cyngor ar ragdybiaethau demograffig ar gyfer prisiad y terfyn uchaf ar gostau a ddarperir gan Adran Actiwari Llywodraeth y DU.

2.13 2. Bu'r Bwrdd yn trafod ac yn cytuno ar y rhagdybiaethau demograffig a gynigiwyd gan yr Adran Actiwari ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Eitem i'w thrafod:Strategaeth y bwrdd ar gyfer 2021-26 (10:45 - 12:15)

Cofnodion:

Paper 7 – Cover paper
Annex A: Strategy on a page
Annex B: Facilitator’s Report
Annex C: Draft Strategy

3.1 The Board considered the draft strategy and agreed to consider a revised, final version at its November meeting.

Actions: The Secretariat to provide a revised, final strategy for agreement at the next meeting in November and to make arrangements for its publication thereafter.

 

4.

Eitem i'w thrafod:Adolygiad o gefnogaeth COVID-19 (13:15 - 14:30)

5.

Eitem i'w thrafod a gwneud penderfyniad yn ei chylch: Diweddariadau a dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol (14:30 - 15:00)