Agenda item
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch:Cynllun Pensiwn yr Aelodau (9.20 - 10.30)
·
Rhwymedi McCloud a Sargeant: Ymateb i’r Ymgynghoriad
·
Enwebiad partner
·
Cymeradwyaeth Trysorlys EM o dan Ddeddf Pensiynau’r
Gwasanaeth Cyhoeddus 2013
·
Cylch Gorchwyl y Bwrdd Pensiynau
·
Prisiad y terfyn uchaf ar gostau
Cofnodion:
Papur 2 - Unioni McCloud a Sargeant: Ymatebion i’r
ymgynghoriad
2.1 Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i'w ymgynghoriad ar
newidiadau arfaethedig i Gynllun Pensiwn Aelodau o'r Senedd (“y Cynllun”).
Roedd y cynigion hyn yn ceisio mynd i’r afael â dyfarniad McCloud a Sargeant y
Goruchaf Lys, a ddyfarnodd fod rhai o ddarpariaethau cynlluniau pensiwn y
gwasanaethau cyhoeddus a oedd yn trin aelodau iau yn llai ffafriol ar sail
oedran yn wahaniaethol.
2.2 Nododd y Bwrdd na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau
i'r cynigion a nodwyd yn yr ymgynghoriad.
2.3 Yn unol â’r cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad,
cytunodd y Bwrdd i roi dewis ar unwaith i'r Aelodau yr effeithir arnynt o ran a
ydynt am ddychwelyd i'r adran Cyflog Terfynol neu aros yn yr adran Enillion Gyrfa
Cyfartalog wedi’u Hailbrisio ar gyfer cyfnod yr anghydraddoldeb.
2.4 Cytunodd y Bwrdd y dylid cyfarwyddo Eversheds
Sutherland i ddrafftio newidiadau i'r Cynllun i adlewyrchu penderfyniad y
Bwrdd.
2.5.5 Cytunodd y Bwrdd i ddarparu hyd at £150 fesul Aelod
tuag at gost cyngor ariannol annibynnol ar y mater hwn.
2.6 Nododd y Bwrdd fod yn rhaid anfon y newidiadau i
Reolau'r Cynllun at Drysorlys EM i'w cymeradwyo.
2.7 Trafododd y
Bwrdd argymhelliad gan y Bwrdd Pensiynau i newid y diffiniad o “partner” yn y
Cynllun. Cynigiwyd y newid hwn gan fod Rheolau'r Cynllun cyfredol yn cynnwys
geiriad y mae'r Goruchaf Lys yn ei ddyfarnu i fod yn wahaniaethol i gyplau
dibriod sy'n cyd-fyw.
2.8 Cytunodd y
Bwrdd y dylid newid y diffiniad i ddileu'r gofyniad o ran ffurflen enwebu sydd
wedi'i gynnwys yn y diffiniad o “partner”. Cytunodd y Bwrdd hefyd na
fyddai'n briodol ymgynghori ar y newid hwn.
2.9 Cytunodd y Bwrdd y dylid cyfarwyddo Eversheds Sutherland
i ddrafftio newidiadau i'r Cynllun i adlewyrchu penderfyniad y Bwrdd.
Papur 4 -
Cymeradwyaeth Trysorlys EM o dan Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013
2.10 Trafododd y
Bwrdd ei ymateb i fwriad Llywodraeth y DU i ddiwygio Bil Pensiynau’r Gwasanaeth
Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol i fynd i’r afael â’r gofyniad i Weinidogion
Trysorlys EM gymeradwyo unrhyw newidiadau a wneir gan y Bwrdd i gynllun pensiwn
yr Aelodau.
Papur 5 - Cylch
Gorchwyl y Bwrdd Pensiynau
2.11 Nododd y
Bwrdd fwriad y Bwrdd Pensiynau i addasu ei Gylch Gorchwyl i egluro’r broses ar
gyfer cael enwebiadau ar gyfer Ymddiriedolwyr a Enwebwyd gan Aelodau. Nododd y
Bwrdd mai diben y newid hwn oedd adlewyrchu'r arfer presennol a sicrhau
cydymffurfiad parhaus â'r gofynion llywodraethu cyfredol.
Papur 6 - Prisiad
y terfyn uchaf ar gostau
Atodiad A: Prisiad y terfyn uchaf ar gostau ar 1 Ebrill 2020: Cyngor ar
ragdybiaethau demograffig: Adran Actiwari’r Llywodraeth
2.12 Croesawodd y
Bwrdd Sandra Bell o Adran Actiwari Llywodraeth y DU, a oedd ar gael i ateb
unrhyw gwestiwn yn ymwneud â'r cyngor ar ragdybiaethau demograffig ar gyfer
prisiad y terfyn uchaf ar gostau a ddarperir gan Adran Actiwari Llywodraeth y
DU.
2.13 2. Bu'r
Bwrdd yn trafod ac yn cytuno ar y rhagdybiaethau demograffig a gynigiwyd gan yr
Adran Actiwari ar gyfer prisiad y terfyn uchaf ar gostau. Cytunodd y Bwrdd
hefyd na fyddai'n briodol ymgynghori ar y rhain.
2.14 Nododd
y Bwrdd nad oedd Trysorlys EM wedi cyhoeddi ei gyfarwyddiadau ar gyfer prisiad
y terfyn uchaf ar gostau ar gyfer 2020 eto ond nad ydynt yn debygol o effeithio
ar y rhagdybiaethau demograffig. Nododd y Bwrdd ymhellach yr ymgynghorid ag ef
pe bai hynny'n newid.
Camau i’w cymryd: Yr Ysgrifenyddiaeth i wneud y canlynol:
·
drafftio
llythyr at y Bwrdd Pensiynau ynghylch penderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol
ar unioni McCloud a Sargeant, ac i gyfarwyddo Eversheds Sutherland i
ddrafftio’r newidiadau angenrheidiol i Reolau’r Cynllun;
·
drafftio
llythyr at y Bwrdd Pensiynau i gadarnhau cytundeb y Bwrdd Taliadau Annibynnol i
newid y diffiniad o “partner” yn y Cynllun, ac i gyfarwyddo Eversheds
Sutherland i ddrafftio’r newidiadau angenrheidiol i Reolau’r Cynllun;
·
drafftio
llythyr at y Senedd ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil
Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol, a osodwyd yn y Senedd gan y
Cwnsler Cyffredinol ym mis Awst 2021.
·
drafftio
llythyr at y Bwrdd Pensiynau i gadarnhau bod y Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi
nodi'r newid i'w Gylch Gorchwyl.
·
drafftio
llythyr at Adran Actiwari'r Llywodraeth i gadarnhau y cytunir â’r
rhagdybiaethau demograffig a wnaed yn ei chyngor.