Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Fideogynhaliad (ar Microsoft Teams)

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r bwrdd a’r swyddogion i’r cyfarfod.

1.2         Croesawodd y Cadeirydd Dean Beard, Deb Suller, Dan Collier a Huw Gapper o Gomisiwn y Senedd i’r cyfarfod.

1.3         Derbyniodd y bwrdd gofnodion y cyfarfod ym mis Tachwedd, fel y’u diwygiwyd.

1.4         Nododd y bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 a chytunwyd nad oedd yn rhaid gwneud newidiadau ychwanegol i’r cymorth sy’n cael ei roi ar hyn o bryd.

1.5         Nododd y bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y ddeddfwriaeth ynghylch pwerau i ohirio etholiad y Senedd yn 2021 yn ôl yr angen. Holodd y bwrdd ynghylch effaith gohirio’r etholiad ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd, gan gytuno y dylid trafod y mater hwn mewn rhagor o fanylder yn ei gyfarfod nesaf.

1.6         Cytunodd y bwrdd ar fân ddiwygiadau i ffurflen y Gofrestr o Fuddiannau, gan gytuno y dylai’r aelodau geisio llenwi’r ffurflen erbyn y cyfarfod nesaf.

1.7         Cafwyd cydnabyddiaeth gan y bwrdd fod angen penodi Swyddog Diogelu Data sy’n annibynnol, sy’n arbenigwr mewn diogelu data, sydd ag adnoddau digonol ac sy’n adrodd yn ôl i’r lefel reoli uchaf.

1.8         Cytunodd y bwrdd i adolygu ei hysbysiad preifatrwydd i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf.

1.9         Cytunodd y bwrdd i drafod y wybodaeth ddiweddaraf am y wefan newydd yn ystod y cyfarfod nesaf.

1.10       Trafododd y bwrdd ei flaenraglen waith, gan gytuno i gael dwy drafodaeth ar wahân ar gynllunio ar gyfer senarios yn y dyfodol.

Camau gweithredu:

 

·         Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod ym mis Tachwedd.

·         Yr ysgrifenyddiaeth i lunio dogfen i roi cyngor i’r bwrdd ar ddeddfwriaeth arfaethedig gan Lywodraeth Cymru ynghylch etholiad y Senedd yn 2021, i’w thrafod yn y cyfarfod nesaf.

·         Yr ysgrifenyddiaeth i ddiwygio’r Gofrestr o Fuddiannau ac anfon y fersiwn ddiwygiedig at aelodau’r bwrdd.

·         Yr ysgrifenyddiaeth i adolygu hysbysiad preifatrwydd y bwrdd a rhoi cyngor i’r bwrdd ar y broses o benodi Swyddog Diogelu Data.

·         Yr ysgrifenyddiaeth i lunio papurau trafod i helpu i gynllunio ar gyfer gwahanol senarios yn ystod y cyfarfod nesaf.

 

2.

Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd

Cofnodion:

2.1      Cytunodd y bwrdd i ohirio’r drafodaeth ar gymorth mewn perthynas â diogelwch yr Aelodau tan y cyfarfod nesaf. Cytunwyd y byddai’r materion hyn yn cael eu trafod fel rhan o drafodaeth strategol ehangach ar y cymorth mewn perthynas â diogelwch a roddir i Aelodau o’r Chweched Senedd.

2.2      Trafododd y bwrdd gynigion ar gyfer cynnal ymgynghoriad fel rhan o’r adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd. Cytunodd y bwrdd ar y cynigion a ganlyn:

·         O gofio’r amgylchiadau economaidd presennol, ar ôl rhewi cyflogau’r Aelodau yn 2019/20, mae’r bwrdd yn cynnig:

o   ar gyfer cyflogau 2020/21, fod penderfyniad y bwrdd i rewi cyflogau ar gyfradd 2019/20 yn parhau (hynny yw, peidio â chynyddu cyflogau 4.4 y cant, sef y cynnydd mewn enillion cyfartalog a gafwyd gan weithwyr eraill yng Nghymru yn y flwyddyn berthnasol);

o   ar gyfer cyflogau 2021/22, i gynyddu’r cyflogau sylfaenol a gafodd eu rhewi 2.4 y cant, sef y cynnydd a gafwyd gan weithwyr eraill yng Nghymru yn y flwyddyn berthnasol – mae hyn yn golygu mai cyflog sylfaenol Aelodau ar ddechrau’r Chweched Senedd fydd £69,273, yn hytrach na’r £72,321 a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2020; a

o   chyflwyno uchafswm o 3 y cant o ran cynnydd mewn cyflog blynyddol, yn gysylltiedig â mynegai’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, a gwrthod unrhyw ostyngiad o dan sero y cant i gyflogau’r Aelodau a deiliaid unrhyw swyddi ychwanegol yn y Chweched Senedd.

·         Peidio â gwneud unrhyw newidiadau i’r lwfans Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer y Chweched Senedd.

·         Dileu unrhyw gyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd, neu roi’r term priodol yn lle’r cyfeiriadau hyn yn ôl yr angen, yn narpariaethau’r Penderfyniad ynghylch teithiau gan Aelodau.

·         Symud costau deunyddiau ysgrifennu mewn ffordd niwtral o ran cost o Gomisiwn y Senedd at Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr. I adlewyrchu hyn, bydd lwfans y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr yn cynyddu £1,800 i £20,060 (neu £6,712 lle bo Aelod yn gweithio o Dŷ Hywel yn unig) ar gyfer dechrau’r Chweched Senedd.

·         Bydd Aelodau sy’n dychwelyd yn gallu hawlio costau sy’n deillio o newid enw’r sefydliad i’r Senedd o’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr.

·         Gwella cynllun pensiwn staff cymorth drwy gyflwyno cyfraniad cyfatebol gan y cyflogwr, lle bydd y cyflogwr yn talu swm sy’n gyfatebol i gyfraniad y cyflogai hyd at uchafswm o 3 y cant o gyflog y cyflogai;

·         O ran cyflogau staff cymorth Aelodau o’r Senedd yn ystod y Chweched Senedd, cyflwyno uchafswm o 3 y cant o ran cynnydd mewn cyflog blynyddol, yn ôl mynegai’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, a gwrthod unrhyw ostyngiad o dan sero y cant.

·         Dileu’r angen am ganllawiau ychwanegol gan y bwrdd ynghylch y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu. Fel sy’n digwydd gyda’r holl wariant o dan y Penderfyniad, bydd Rheolau a Chanllawiau’r Swyddog Cyfrifyddu ynghylch Defnyddio Adnoddau’r Senedd yn berthnasol. Fel diwygiad canlyniadol, mae’r bwrdd yn cynnig cynnwys terfyn amser cyfatebol o bedwar mis cyn etholiad cyffredinol yn y Penderfyniad ynghylch polisi ac ymchwil o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu'r Bwrdd

Cofnodion:

3.1      Cytunodd y bwrdd ar ei flaenoriaethau cyffredinol ar gyfer ei waith cyfathrebu ac ymgysylltu yn ystod cyfnod y bwrdd presennol.

3.2      Trafododd y bwrdd sut y gallai wella ei gyfathrebiadau mewnol, gan gytuno i ymgynghori â’r Aelodau a’u staff cymorth ynghylch sut y mae’n cynnal ei ymgynghoriadau.

3.3      Trafododd y bwrdd opsiynau ar gyfer ei gysylltiadau allanol a’i gyfathrebiadau. Nododd y bwrdd ei fod yn awyddus i drafod defnyddio dulliau mwy cydgynghorol o ymgysylltu ar faterion a phenderfyniadau pwysig, yn ogystal â datblygu perthynas mwy gweithredol â rhanddeiliaid yn y cyfryngau.

3.4      Cytunodd y bwrdd i drafod cynyddu ei bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ac i ofyn am gyngor gan dîm Cyfathrebu y Senedd ynghylch sut i wneud ei waith yn fwy deniadol ar lwyfannau o’r fath.

3.5      Cafodd y bwrdd gyflwyniad i wefan newydd y Senedd.

3.6      Trafododd y bwrdd ei dudalennau ar wefan newydd y Senedd a phryd y byddant ar gael ‘yn fyw’. Cytunodd y dylid trosglwyddo parth y bwrdd ar y we i wefan newydd y Senedd ar ôl gwneud newidiadau i’r cynlluniau drafft ar gyfer y tudalennau perthnasol.

3.7      Cytunodd i drafod ei dudalennau ar y we eto yn ystod y cyfarfod nesaf.

Camau gweithredu:

  • Yr ysgrifenyddiaeth i lunio amlinelliad o drafodaethau a phwyntiau trafod y cytunwyd arnynt ar gyfer diwrnod cynllunio strategaeth yn y dyfodol.
  • Yr ysgrifenyddiaeth i drafod ffyrdd o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol â thîm Cyfathrebu y Senedd.
  • Yr ysgrifenyddiaeth i olygu a llunio tudalennau drafft ar y we i’w trafod yn ystod y cyfarfod nesaf.

 

4          Unrhyw fater arall: dyfarniad McCloud

4.1      Trafododd y bwrdd y llythyr a ddaeth i law gan Gadeirydd y Bwrdd Pensiynau.

4.2      Cytunodd y bwrdd i ofyn am gyngor cyfreithiol ar gymhwyso dyfarniad McCloud yng nghyd-destun Cynllun Pensiwn yr Aelodau.

4.3      Cytunodd y bwrdd i drafod y mater hwn yn ystod ei gyfarfod nesaf.

Camau gweithredu:

  • Yr ysgrifenyddiaeth i ymchwilio i opsiynau ar gyfer gofyn am gyngor ar gymhwyso dyfarniad McCloud yng nghyd-destun Cynllun Pensiwn yr Aelodau, ac i gael cymeradwyaeth drwy e-bost cyn gwneud cais ffurfiol am y cyngor hwn.