Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2     Nododd y Pwyllgor y byddai Llyr Gruffydd yn dirprwyo ar ran Rhun Ap Iorwerth ar gyfer Eitem 2. Fodd bynnag, byddai Rhun Ap Iorwerth yn bresennol ar gyfer Eitem 3.

2.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

2.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad yn unol â'i swyddogaethau a nodir o dan Reol Sefydlog 22.9 a pharagraff 8.1 o'r Weithdrefn ar gyfer Ymdrin â Chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd, mewn perthynas â chwyn a wnaed yn erbyn Dai Lloyd AS, a chytunodd arno.

 

2.2 Ar ôl ystyried adroddiad y Comisiynydd Dros Dro, cytunodd y Pwyllgor fod Dai Lloyd AS wedi torri’r rheol a nodir ym mharagraff 10 o'r Cod Ymddygiad, wrth weithredu fel Cadeirydd Grŵp Plaid Cymru.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor nad oedd angen cymryd dim camau pellach.

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion ei gyfarfod blaenorol.

 

3.2 Bu’r Pwyllgor hefyd yn trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 22.1(1).