Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Nododd y
Pwyllgor y byddai Llyr Gruffydd yn dirprwyo ar ran Rhun Ap Iorwerth ar gyfer
Eitem 2. Fodd bynnag, byddai Rhun Ap Iorwerth yn bresennol ar gyfer Eitem 3. |
|
Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) Cofnodion: 2.1 Ystyriodd y
Pwyllgor ei adroddiad yn unol â'i swyddogaethau a nodir o dan Reol Sefydlog
22.9 a pharagraff 8.1 o'r Weithdrefn ar gyfer Ymdrin â Chwynion yn erbyn
Aelodau o'r Senedd, mewn perthynas â chwyn a wnaed yn erbyn Dai Lloyd AS, a
chytunodd arno. 2.2 Ar ôl
ystyried adroddiad y Comisiynydd Dros Dro, cytunodd y Pwyllgor fod Dai Lloyd AS
wedi torri’r rheol a nodir ym mharagraff 10 o'r Cod Ymddygiad, wrth weithredu
fel Cadeirydd Grŵp
Plaid Cymru. 2.3 Cytunodd y
Pwyllgor nad oedd angen cymryd dim camau pellach. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion: 3.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion ei gyfarfod blaenorol. 3.2 Bu’r Pwyllgor
hefyd yn trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau Dros Dro yn unol â Rheol
Sefydlog 22.1(1). |