Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Adroddiadau Blynyddol Grwpiau Trawsbleidiol: Trafod Adroddiad 2019-20 SoC(5)-12-20 Papur 1 - Adroddiad Blynyddol Grwpiau Trawsbleidiol 2019-20 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Gwahoddodd y
Cadeirydd Owain Roberts, Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno, Comisiwn y Senedd i
gyflwyno Adroddiad Blynyddol Grwpiau Trawsbleidiol 2019-20. 2.2 Trafododd y
Pwyllgor sut mae'r broses o adrodd ar grwpiau trawsbleidiol wedi gweithio yn y
Bumed Senedd a chytunodd i gynnwys hyn fel rhan o'i adroddiad gwaddol. |
|
Recriwtio'r Comisiynydd Safonau SoC(5)-12-20
Papur 2 - Recriwtio Comisiynydd Safonau newydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd y
Pwyllgor y broses ar gyfer recriwtio Comisiynydd Safonau newydd. 3.2 Nododd y
Pwyllgor y byddai'r cyfrifoldeb am y trefniadau gweinyddol yn cael ei ddirprwyo
i Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd. 3.3 Cytunodd y
Pwyllgor i ystyried Disgrifiad Swydd drafft mewn cyfarfod sydd i ddod. |
|
Gweithdrefnau ac arferion gwaith y Pwyllgor Cofnodion: 4.1 Trafododd y
Pwyllgor ei weithdrefnau a’i arferion gwaith ar gyfer trin adroddiadau gan y
Comisiynydd Safonau. |