Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: - Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. - Roedd y Cadeirydd
yn dymuno mynegi cydymdeimlad dwys y Pwyllgor â theulu a ffrindiau Mohammad
Asghar. |
|
(10.00 - 11.45) |
Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Safonau 2019-20 SoC(5)-08-20 Papur
2 - Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Safonau 2019-20 Dogfennau ategol: Cofnodion: - Croesawodd y
Cadeirydd Douglas Bain, y Comisiynydd Safonau Dros Dro, a'i wahodd i gyflwyno’r
Adroddiad Blynyddol Safonau ar gyfer 2019/20. - Nododd y
Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach, ar 22 Mehefin
2020. |
|
(10.45 - 11.30) |
Adrodd Deuol SoC(5)-08-20
Papur 1 – Adrodd Deuol Dogfennau ategol:
Cofnodion: - Trafododd y
Pwyllgor ei adolygiad o ofynion adrodd yn ymwneud â rhoddion o dan y Ddeddf
Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda. - Cytunodd y
Pwyllgor, oherwydd cyfyngiadau amser yn sgil y pandemig Covid-19, na fyddai’n
bwrw ymlaen â’r gwaith hwn ar unrhyw ffurf ar hyn o bryd. - Cytunodd y
Pwyllgor y dylid cynnwys y gwaith hwn yn yr adroddiad etifeddiaeth ar gyfer
pwyllgor y Chweched Senedd sy’n gyfrifol am safonau. |