Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig: Preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r pwyllgor. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Andrew RT Davies AC. |
|
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nodwyd y Papur a chytunodd yr Aelodau i
ddychwelyd at y mater fel rhan o'r adolygiad o'r Cod Ymddygiad. |
||
Lobïo: Datganiad gan y Llywydd (27 Tachwedd 2019) Dogfennau ategol: |
||
(09.35 - 10.30) |
Cod Ymddygiad - Adolygiad SoC(5)-18-19
Papur 1 – Papur Cwmpasu SoC(5)-18-19
Papur 2 - Llythyr oddi wrth Syr Roderick Evans QC Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu'r aelodau'n trafod a chytunwyd ar y
cynigion ar gyfer yr adolygiad gan nodi y bydd papur cynhwysfawr yn cael ei
baratoi i'w ystyried ganddynt yn y cyfarfod nesaf. |
|
(10.30 - 11.00) |
Adrodd Deuol SoC(5)-18-19
Papur 3 – Adroddiad cynnydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd yr aelodau’r cynnydd a wnaed yn y
maes gwaith hwn a bydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu yn nhymor y
gwanwyn 2020. 4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y
Comisiynydd Safonau Dros Dro yn gofyn am ei farn ar effaith y newidiadau
arfaethedig sy'n ofynnol i ddod â chofrestriad deuol i ben. |