Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Pumed Cynulliad.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas.

1.3       Cyflwynodd Aelodau'r Pwyllgor a'r swyddogion eu hunain.

 

(09:35-10:20)

2.

Busnes cynnar a chyfrifoldebau'r pwyllgor

SoC(5)-01-16 papur 1

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Enwebwyd Dafydd Elis-Thomas i weithredu yn unol ag Adran 10.2 o'r weithdrefn gwynion.

2.2     Nododd yr Aelodau gyfrifoldebau'r Pwyllgor.

2.3     Bu'r Aelodau yn trafod y papur ar fusnes cynnar a chytunwyd: 

·       Cynnal sesiwn ragarweiniol gyda'r Comisiynydd Safonau presennol a'r Comisiynydd newydd yn nhymor yr hydref; 

·       Bwrw ymlaen â'r gwaith mewn perthynas â chofrestru dwbl sy'n ymwneud â manylion ariannol;

·       Bwrw ymlaen â gwaith mewn perthynas â'r canllawiau i Aelodau ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a materion cynllunio; a

·       Bwrw ymlaen â gwaith mewn perthynas â lobïo.

 

 

 

(10:20-10:30)

3.

Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Safonau ar gyfer 2015-16

SoC(5)-01-16 papur 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1       Cytunodd yr Aelodau i gynnal sesiwn o'r Pwyllgor gyda'r Comisiynydd Safonau yn ystod tymor yr hydref i drafod ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16. Nododd yr Aelodau fod disgwyl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar 12 Gorffennaf 2016.