Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yn breifat yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi) a 17.42(ix)

(13.30)

1.

Cyflwyniad, Ymddiheuriadau, Dirprwyon a Datgan Buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cytunodd y Pwyllgor i gofnodi ei ddiolch i Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa'r UE, am ei wasanaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd Mr Jones yn gadael y Cynulliad ar ddiwedd 2016.

 

(13.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

2.1

Gadael yr Undeb Ewropeaidd: y goblygiadau i Gymru - gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

(13.30 - 14.30)

3.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd: y goblygiadau i Gymru - trafod y papur materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y papur ar y materion allweddol, a chytunodd arno.

 

(14.30 - 15.00)

4.

Blaenraglen waith - y trefniadau ar gyfer tymor y gwanwyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith, a chytunodd arni yn amodol ar fân newidiadau. Bydd y Pwyllgor yn ystyried y flaenraglen waith eto yn y flwyddyn newydd.