Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Thomas 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30 - 10.00)

2.

Adolygiad o'r rhaglen waith bresennol a’r blaenoriaethau strategol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Adolygodd y Pwyllgor y gwaith y mae eisoes wedi’i wneud a thrafododd y blaenoriaethau strategol a bennwyd ganddo yn ystod tymor yr hydref 2016.

 

(10.00 - 10.45)

3.

Blaengynllunio: y tymor byr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i weithgarwch corfforol a phlentyndod. Bydd y cylch gwaith yn cael ei gwblhau yn y cyfarfod ar 19 Gorffennaf, a bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn hynny.

3.2 Dechreuodd y Pwyllgor drafod ei gynlluniau ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.

 

(11.00 - 12.00)

4.

Blaengynllunio: y tymor canolig/hir

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Dechreuodd y Pwyllgor drafod ei gynlluniau ar gyfer ymchwiliadau’r dyfodol a chytunodd i gwblhau’r cynigion yn ei gyfarfod ar 19 Gorffennaf.

4.2 Cytunodd y Pwyllgor ganslo’i gyfarfod ar 13 Gorffennaf a gohirio’r trafodaethau ar ei adroddiad drafft am ofal sylfaenol tan fis Medi.