Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/01/2021 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30-10.45)

2.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid – Llywodraeth Cymru

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Bregus – Llywodraeth Cymru

Peter Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd – Llywodraeth Cymru

 

Briff Ymchwil

Papur 1 – Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg.

2.2 Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu crynodeb o'r wybodaeth a gafwyd gan fyrddau iechyd lleol yn nodi sut y byddai'r ail £3.5 miliwn a ryddhawyd o Gronfa Gwella'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl yn cael ei wario yn unol â blaenoriaethau cynllun cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.

 

(10.45)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod heddiw ar gyfer eitem 4

Cofnodion:

3.1  Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4.

 

(10.45-11.00)

4.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan awgrymu pa faterion y dylai ei adroddiad ymdrin â nhw.

 

(11.15-11.45)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Dafydd Elis-Thomas AS, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth – Llywodraeth Cymru

Steffan Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwylliant a Chwaraeon – Llywodraeth Cymru

 

Briff Ymchwil

Papur 2 - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

5.2 Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i baratoi nodyn ar y meini prawf a ddefnyddir gan Chwaraeon Cymru i flaenoriaethu ceisiadau am arian cyfalaf i wella cyfleusterau chwaraeon, a sut y mae hyn yn sicrhau bod gwariant yn cael ei dargedu lle mae ei angen fwyaf.

 

(11.45)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.

 

(11.45-12.00)

7.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan awgrymu pa faterion y dylai ei adroddiad ymdrin â nhw.