Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 262KB) Gweld fel HTML (122KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol - sesiwn dystiolaeth gyda'r Sefydliad Iechyd

Adam Roberts, Pennaeth Economeg

Anita Charlesworth, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Economeg

 

Adroddiad gan y Sefydliad Iechyd - ‘Y llwybr i gynaliadwyedd’

http://www.health.org.uk/sites/health/files/YLlwybrI%20Gynaliadwyedd_0.pdf

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Sefydliad Iechyd.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.30 - 11.00)

4.

Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol - trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2, a thrafod yr ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad y Pwyllgor

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd gan y sefydliad iechyd a thrafododd yr ymatebion ysgrifenedig i'r ymgynghoriad cyhoeddus. Cytunodd y Pwyllgor y byddai crynodeb o'r ymatebion hynny'n cael ei gyhoeddi maes o law.

 

(11.00 - 11.20)

5.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafod y dull gweithredu ar gyfer gwaith craffu yng Nghyfnod 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu ar gyfer gwaith craffu ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a chytunodd i alw am dystiolaeth yn ddiweddarach yn yr wythnos. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i wahodd rhanddeiliaid perthnasol i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor mewn cyfarfodydd yn ddiweddarach yn y tymor.