Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Fideo gynadledda drwy Zoom
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/05/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir cyntaf y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y
Cadeirydd ei fod wedi penderfynu
gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd. 1.3 Dywedodd y Cadeirydd, pe bai'n gadael y cyfarfod am
unrhyw reswm, fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Dawn Bowden MS yn dod yn
Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o
fuddiant. |
|
(10.00-11.00) |
COVID-19 a'i effaith ar faterion yn ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor - sesiwn graffu â’r Gweinidog Julie James AC, y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Emma Williams,
Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio Reg Kilpatrick,
Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Holodd yr Aelodau y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
a'i swyddogion ynghylch Covid-19 ac ymateb ei hadran hyd yma i'r pandemig. 2.2 Cytunodd y Gweinidog, os yn bosibl, i ddarparu rhagor
o wybodaeth am nifer y bobl sy'n cymryd gwyliau morgais a nifer yr achosion o
droi pobl allan o dai yn ystod y pandemig.
|