Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jon Antoniazzi 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Janet Finch-Saunders AC. Dirprwyodd Mohammad Asghar AC ar ran Janet Finch-Saunders AC, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

(9.30 - 11.00)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18

Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi
John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

·         Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi

·         John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio

 

3.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Gohebiaeth rhwng yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a Llywodraeth Leol a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

 

3.2

Gohebiaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ynghylch ei Grŵp Arweinyddiaeth ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

 

3.3

Gohebiaeth gan NSPCC Cymru ynghylch ei strategaeth ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan NSPCC Cymru.

 

3.4

Gohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) mewn perthynas â'r gwaith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd i drafod y canlynol:

 

·         tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant;

·         y llythyr drafft at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ynghylch cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb ddrafft;

·         cynllunio strategol a thrafod ymchwiliadau posibl;

·         y materion allweddol sy'n codi o waith craffu ar ôl deddfu'r Pwyllgor ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

 

(11.15 - 11.30)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 - trafod y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn nodi ei sylwadau ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18, fel y mae'n ymwneud â'r portffolio.

 

(11.30 - 11.45)

6.

Cynllunio strategol a thrafod ymchwiliadau posibl

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor ei flaenoriaethau ar gyfer ymchwiliadau yn y dyfodol.

 

(11.45 - 12.30)

7.

Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: Trafod y materion allweddol

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sy'n codi o'r dystiolaeth a gafwyd yn ei ymchwiliad i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, cyn drafftio'r adroddiad.